Cymdeithas yr Iaith yn cydymdeimlo â theulu Gareth Miles yn eu profedigaeth

Mae Cymdeithas yr Iaith yn cydymdeimlo â theulu Gareth Miles o glywed am eu profedigaeth heddiw. Roedd Gareth Miles yn un o sylfaenwyr y Gymdeithas, yn Gadeirydd ar y mudiad rhwng 1967 ac 1968, ac yn allweddol o ran cyflwyno'r egwyddor creiddiol bod y frwydr dros yr iaith yn rhan annatod o'r frwydr fyd-eang dros gyfiawnder cymdeithasol.

Tra'n adlewyrchu ar lwyddiant Cymdeithas yr Iaith mewn cyfweliad diweddar gyda'r Gymdeithas, dywedodd Gareth Miles:

"Y llwyddiant mwyaf yw bod yr iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymraeg mor llewyrchus er gwaethaf pawb a phopeth. Mae'r diwylliant, ein llenyddiaeth ac addysg Gymraeg yn llwyddo."

Yn edrych yn ôl ar ei Gadeiryddiaeth, ymfalchïodd mewn cadw undod y mudiad, amddiffyn y dull di-drais, a chryfhau'r ysbryd cenedlaethol trwy wrthwynebu'r arwisgo a herio Seisnigrwydd yr achlysur. Bu'n allweddol yn yr ymgyrch paentio arwyddion hefyd. Dywedodd yn ei gylch:

"Yn sicr, mi gawson ni hwyl arni. Bob tro y gwelwn ni arwydd Cymraeg, mae'r Gymdeithas yn medru ei llongyfarch ei hun."

Dywedodd Ffred Ffransis, ymgyrchydd oes Cymdeithas yr Iaith a ddaeth yn rhan o'r mudiad o dan Gadeiryddiaeth Gareth Miles:

"Gareth oedd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith ar ganol yr 1960au pan ddois i'n aelod gweithredol, a bu'n arwain mewn dull amhrisiadwy trwy siarad ac annog aelodau ifainc newydd. Fo yn bennaf oll roddodd y sicrwydd i ni i gyd fod y frwydr dros y Gymraeg yn rhan o frwydr ehangach fyd-eang dros gyfiawnder cymdeithasol, a rhoi pobl o flaen buddiannau corfforaethol. Mae ein dyled yn enfawr iddo."

Dywedodd Robat Idris, Cadeirydd presennol Cymdeithas yr Iaith:

"Heblaw am ei gyfraniad fel sylfaenydd a Chadeirydd, Gareth Miles gyflwynodd ac a wreiddiodd y syniad sy'n dal i redeg trwy waith y Gymdeithas, bod brwydr yr iaith yn annatod i gyfiawnder cymdeithasol ac yn rhan o'r frwydr fyd-eang yn erbyn grym imperialaidd a chyfalafol. Mae hynny'n rhan annatod o'n gweledigiaeth ni hyd heddiw.

"Mae'n golled i'r mudiad cenedlaethol, y mudiad sosialaidd a'r chwith yng Nghymru, ond yn bennaf oll mae'n golled i'r teulu."