Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadw at eu hymrwymiad i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar reilffyrdd

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadw at eu hymrwymiad i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar reilffyrdd Cymru.

Ers i wasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru ddod dan reolaeth Llywodraeth Cymru yn Chwefror 2021, maent yn ddarostyngedig i Safonau Iaith Gweinidogion Cymru. Mae disgwyl Safonau Iaith penodol yn y sector trafnidiaeth cyn diwedd y tymor Seneddol.

Mynychodd Gymdeithas yr Iaith gyfarfod calonogol gyda Thrafnidiaeth Cymru brynhawn Iau (27 Gorffennaf) lle amlinellodd Trafnidiaeth Cymru amserlen i ehangu defnydd y cwmni o’r Gymraeg yn y dyfodol agos. Ymysg yr ymrwymiadau, addawyd cynnydd mewn cyhoeddiadau Cymraeg ar drenau a gorsafoedd rheilffordd, cyflwyno meddalwedd cyfieithu newydd ar ap Trafnidiaeth Cymru, yn ogystal â darparu cyrsiau Cymraeg a hybu defnydd o’r Gymraeg ymysg eu gweithwyr ymhellach. 

Ers hynny mae wedi dod yn glir bod nifer o gwynion am wasanaethau Trafnidiaeth Cymru wedi eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru. Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd wedi derbyn cwynion ynglyn a’r Gymraeg ar fyrddau gwybodaeth a gallu staff gyda’r Iaith.

Dywedodd Sian Howys, Cadeirydd Grŵp Hawl i’r Gymraeg Cymdeithas yr Iaith:

“Yr hyn ddaeth yn glir yn y cyfarfod yw bod Trafnidiaeth Cymru yn bwriadu cymryd camau i gynyddu ei ddarpariaeth Gymraeg, ond bod angen i’r Llywodraeth osod Safonau ar y sector trafnidiaeth yn ei gyfanrwydd. Mae oedi mawr wedi bod wrth osod Safonau ar gyrff newydd, gan gynnwys y sector trafnidiaeth, felly byddwn ni’n pwyso ar Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg, i osod y Safonau hynny yn sydyn. Er i swyddogion Trafnidiaeth Cymru ddweud bod rhai cwynion a gyflwynwyd am wasanaethau Cymraeg Trafnidiaeth Cymru tu hwnt i’r hyn sydd i’w ddisgwyl trwy’r Safonau, gallai’r gwasanaeth trenau drefnu darpariaeth ehangach o’i wirfodd. Mae’r ffaith bod nifer o gwynion wedi dod i law am wasanaethau Cymraeg Trafnidiaeth Cymru felly yn pwysleisio bod angen gosod Safonau yn y sector trafnidiaeth cyn gynted â phosibl.”

Bydd y Gymdeithas yn cadw golwg i sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn cadw at yr ymrwymiadau a’r amserlen arfaethedig a bod Llywodraeth Cymru yn gosod Safonau ar gwmnïau trafnidiaeth cyn gynted â phosibl.

Ychwanegodd Sian Howys:

“Mae’r Mesur yn galluogi gosod Safonau ar gwmnïau telathrebu a gwasanaethau post, does dim sôn bod y Llywodraeth yn bwriadu rhoi Safonau yn y meysydd hynny felly byddwn ni’n pwyso hefyd ar y Llywodraeth i osod Safonau yn yr holl feysydd sy’n bosibl trwy Fesur y Gymraeg 2011."

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyfarfod eto gyda Thrafnidiaeth Cymru yn y dyfodol i drafod diweddariadau.