Cymdeithas yr Iaith yn lansio partneriaeth gyda TUC Cymru

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi lansio partneriaeth gyda Chyngres Undebau Llafur Cymru (TUC Cymru) mewn cam pwysig i hyrwyddo ac amddiffyn hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.

Ar stondin y Gymdeithas ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol am 2.30yh ddydd Iau 10 Awst, arwyddodd Robat Idris, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, a Siân Gale, Llywydd Etholedig TUC Cymru, Femorandwm Dealltwriaeth i lansio’r bartneriaeth hon.

Cynrychiola TUC Cymru 48 undeb llafur a 400,000 o weithwyr yng Nghymru, ac mae ‘Cynnig Cymraeg’ Comisiynydd y Gymraeg wedi ei ddyfarnu iddo. Mae’r Gymdeithas wedi dadlau am yn hir bod cymunedau iach, wedi’u seilio ar waith cynaliadwy, cyflogau teg, ac amodau byw rhesymol, yn amodau hanfodol i’r Gymraeg ffynnu yn y tymor hir fel iaith naturiol ac mae’r ddau fudiad yn cydnabod bod y Gymraeg wedi bod yn ymylol yn y gweithle am yn rhy hir. Bwriad y cydweithio rhwng Cymdeithas yr Iaith a TUC Cymru trwy’r Cytundeb Dealltwriaeth yw hyrwyddo egwyddorion cyffredin megis gwaith teg, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.

Dywedodd Siân Howys, Cadeirydd Grwp Hawl i’r Gymraeg Cymdeithas yr Iaith:

I wireddu’r nod o normaleiddio’r Gymraeg mewn gweithleoedd, rydym wedi cytuno ar amcanion cyffredin, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth i weithwyr a chyflogwyr o hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg yn y byd gwaith gan geisio diogelu’r rhyddid hwnnw, cefnogi gweithwyr sydd wedi profi annhegwch neu anghyfiawnder yn sgil eu defnydd o’r Gymraeg yn ogystal â hyrwyddo cyfleoedd i weithwyr ddysgu ac uwchsgilio eu Cymraeg yn y gweithle. Rydym wedi paratoi taflen ar y cyd fel dechreuad i’r bartneriaeth yma - Eich Hawl i Ddefnyddio’r Gymraeg yn y Gweithle, ac mi fydd ar gael yn yr Eisteddfod.

Dywedodd Dr Mandy James o TUC Cymru:

“Dw i’n hynod gyffrous ynghylch y bartneriaeth hon. TUC Cymru yw llais Cymru yn y gweithle. Yn ei hanfod, mae’r bartneriaeth yn canolbwyntio ar gefnogi a hyrwyddo – gyda’r nod o ddiogelu – rhyddid a hawliau gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle a dyfodol y Gymraeg fel iaith fyw mewn gweithleoedd a chymunedau ar draws Cymru fel rhan o agenda ehangach gwaith teg, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol. Mae’r bartneriaeth hefyd yn mynegi’r egwyddorion a’r nodau a rannwn yn nhermau cefnogi ac hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle. Ac rydym am weld hawliau Cymraeg ychwanegol yn cael eu cyflwyno a’u gweithredu dros amser a’r Gymraeg yn cael ei normaleiddio ym mhob gweithle yng Nghymru.”