Ddeuddeg awr wedi rhwystro swyddogion addysg y Cyngor Sir rhag ymadael a maes parcio, mae Cymdeithas yr Iaith wedi gweithredu yn erbyn un arall o benderfyniadau dadleuol Cyngor Sir Caerfyrddin. Arestiwyd 2 aelod o Gymdeithas yr Iaith y bore yma am dynnu arwydd uniaith Saesneg enfawr sy'n dynodi safle datblygiad newydd Debenhams yn nhre Caerfyrddin. Tynnwyd yr arwydd gan Llyr Edwards (29 oed o Bont Tweli) a Iestyn ap Rhobert (24 oed o Langadog).
Esboniodd Sioned Elin, Cadeirydd Rhanbarth Caerfyrddin-Penfro Cymdeithas yr Iaith gymraeg:"Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin obsesiwn biwrocrataidd ynghylch canoli gwasanaethau ac anwybyddu barn cymunedau lleol. Yn union fel y mae'r Cyngor yn mynnu cau degau o ysgolion pentrefol yn groes i ddymuniadau lleol a rhoi ysgolion mawr canolog yn eu lle, felly maent hefyd yn cydweithio gydag archfarchnadoedd mawr Debenhams a Tesco ar draul busnesau lleol ac yn groes i'r farn fwyafrifol yng Nghaerfyrddin.""Mae Cymdeithas yr Iaith yn mynnu fod y cwmniau mawr allannol - sy'n gallu trin y cyngor lleol mor rhwydd - yn talu'n llawn trwy ymwreiddio yn y gymuned leol, gan barchu'n hiaith a chynnyrch lleol a rhoi cyfleon cyflogaeth da yn lleol. Mae Cwmni Debenhams wedi cychwyn yn wael iawn trwy ddewis enw Saesneg anaddas (St Catherine's Walk) ar gyfer y datblygiad, a chodi arwydd enfawr uniaith Saesneg i ddynodi'r datblygiad.""Gall hwn fod yn arwydd o'u bwriad i drin y gymuned leol gyda dirmyg yn yr un modd ag y maent wedi trin y Cyngor mor rhwydd. Trwy dynnu'r arwydd hwn, mae'r Gymdeithas yn mynnu fod Debenhams a chwmniau eraill fel Tesco yn parchu'r gymuned leol."Mae'r Gymdeithas yn ymgyrchu hefyd i Gymreigio siopau presennol y dref, ac wedi cyhoeddi siarter "Saith dros yr Iaith" ar gyfer datblygiadau enfawr fel Debenhams a Tesco sef:1. Arwyddion parhaol dwyieithog2. Arwyddion/Taflenni dros dro dwyieithog3. Hyfforddiant iaith i'r staff4. Labeli dwyieithog ar eu nwyddau eu hunain5. Cyhoeddiadau dros yr uchelseinydd yn ddwyieithog6. Adran o Wefan y Cwmni yn ddwyieithog7. Gwerthu cynnyrch lleolMae'r weithred hon yn digwydd ddiwrnod cyn Gwyl Fawr y Gymdeithas yn Aberystwyth sydd yn galw am Ddeddf Iaith Newydd. Petai deddf o'r fath yn cael ei phasio byddai'n rhaid i gwmniau preifat ddarparu gwasanaeth hollol ddwyieithog i'w cwsmeriaid.