Bydd aelodau Cymdeithas yr Iaith yn ymuno â’r protestiadau ar Fawrth y 1af eleni - diwrnod agoriad swyddogol adeilad newydd y Cynulliad Cenedlaethol. Mae’r Gymdeithas am hoelio sylw Rhodri Morgan a’i lywodraeth at yr angen am ddeddfwriaeth newydd ym maes y Gymraeg.
"Y Gymraeg ddylai fod y maes cyntaf i ddeddfu ynddi pan ddaw rhagor o rym i’r Cynulliad yn 2007. Mae’r Blaid Lafur yn parhau i anwybyddu’r ffaith i Rhodri Morgan ddatgan yn 1993 ei fod o blaid yr angen am ddeddfwriaeth pellach ym maes y Gymraeg. Gyda agoriad y senedd tryloyw newydd, a phobl Cymru yn gallu gweld trwy’r ffenestri i gyd, rhaid sicrhau atebolrwydd i’n pobl.""Mae heddiw yn ddiwrnod pwysig i bawb yng Nghymru. Mae’n ddiwrnod i ddathlu ein cenedligrwydd ac yn ddiwrnod arwyddocaol yn hanes ein gwleidyddiaeth. Mae’r Gymraeg yn rhan hanfodol o’r holl ddathliadau hyn. Ar ddiwrnod cenedlaethol fel hyn, mae’n holl bwysig pwysleisio fod yr iaith Gymraeg yn etifeddiaeth i ni gyd. I unrhyw un sydd wedi dewis gwneud Cymru yn gartref iddyn nhw. Dylai fod gan bawb yng Nghymru yr hawl i’r Gymraeg."Daw’r protestio ym Mae Caerdydd ddeuddydd ar ôl i’r Gymdeithas lansio bilfwrdd y tu allan i adeiladau’r Cynulliad. Y bwriad yw atgoffa Rhodri Morgan a’i lywodraeth o’r addewidion sydd wedi eu gwneud yng nghyd destun y Gymraeg.