Cymdeithas yr Iaith yn ymuno â’r ymgyrch i wrthwynebu toriadau i sefydliadau diwylliannol Cymru

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymuno â’r ymgyrch yn erbyn toriadau i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru a’r Comisiwn Brenhinol gan rybuddio am yr effaith ar y Gymraeg a chymunedau Cymraeg, a dweud eu bod yn “gyfystyr a thoriadau i’r iaith.”

Dywedodd Joseff Gnagbo, Cadeirydd Cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith: 

“Fyddai’r Llywodraeth ddim yn arbed rhyw lawer o wneud y toriadau yma, ond byddai’r effaith i’n hiaith a’n diwylliant yn drychinebus. Oherwydd hyn, rydym yn gwbl gefnogol i weithwyr y sefydliadau diwylliannol a’u hundebau yn y frwydr hon ac yn galw am gynnydd, nid toriadau, i gyllidebau’r Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru a’r Comisiwn Brenhinol.

“Byddai’r toriadau arfaethedig yn golygu colli swyddi Cymraeg, gyda nifer o’r rheini yng nghadarnleoedd yr iaith, sydd eisoes yn profi cwymp yn nifer y siaradwyr, a lle mae cyfleoedd i weithio trwy’r Gymraeg yn gymharol brin. Mae Jeremy Miles wedi gwneud addewidion cyhoeddus droeon ynghylch gwarchod gwariant ar y Gymraeg yng nghyllideb y Llywodraeth, ond byddai gyrru ymlaen gyda’r toriadau yma’n gyfystyr a thoriadau i’r iaith.”

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar ei haelodau i lofnodi deiseb sy’n gwrthwynebu’r toriadau ac i fynychu protest o flaen y Senedd ddydd Mawrth (27 Chwefror).