Apêl i gymdeithas dai - 250 mewn protest yng Nghaernarfon

Cynhaliodd dau gant pum deg o ymgyrchwyr iaith brotest heddiw (Dydd Sadwrn, 24ain Ionawr) mewn ymdrech i wrth-droi penderfyniad cymdeithas dai yng Ngwynedd i beidio cynnwys y Gymraeg fel sgil hanfodol ar gyfer swyddi rheoli haen uchel.  
 
Cefnogodd y siaradwyr y Cynghorydd Siân Gwenllïan yn ei safiad wedi iddi ymddiswyddo o fwrdd rheoli Cartrefi Cymunedol Gwynedd o ganlyniad i'w benderfyniad i ollwng gofynion iaith ar swyddi. Yn dilyn yr helynt, cyhoeddodd Comisiynydd y Gymraeg nad oedd y gymdeithas dai  wedi rhoi eglurhad ddigon manwl ynglŷn â'u penderfyniad i beidio â gwneud y Gymraeg yn amod.

Ymysg y siaradwyr oedd yr Aelod Seneddol Hywel Williams, cyn-lywydd Plaid Cymru Dafydd Iwan a'r ymgyrchydd Ieu Wyn.  Yn siarad ar ôl y brotest, dywedodd Menna Machreth, Cadeirydd Rhanbarth Gwynedd - Môn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sydd wedi cydlynu trefniadau'r brotest rhwng nifer o fudiadau:  
 
“Mae canran uchel iawn o denantiaid y gymdeithas dai hon  yn siaradwyr Cymraeg. Mae penderfyniad y sefydliad felly yn warthus. A rhaid i ni ddangos, nid yn unig ein cefnogaeth lwyr i benderfyniad dewr y Cynghorydd Siân Gwenllïan, ond hefyd ein hymroddiad o  fynnu bod y Gymraeg yn sgil hanfodol yma yng Ngwynedd mewn swyddi fel hyn.
 
“Os caniateir i hyn ddigwydd, bydd  yn tanseilio ymdrechion i gryfhau'r iaith, nid yn unig yn yr ardal hon ond llefydd eraill yn ein gwlad sy'n edrych i ni am arweiniad.  Mae'r Gymraeg yn sgil hanfodol nid yn unig yma yng Ngwynedd ond ar draws Cymru, ac mae'n hen bryd i bob un sefydliad, boed hynny'n awdurdod lleol neu yn gymdeithas dai ddechrau sylweddoli, a gweithredu ar hynny.”