Mae Cyngor Caerdydd wedi honni nad yw’r Gymraeg yn rhan o ‘ffabrig cymdeithasol’ y brifddinas mewn llythyr at ymgyrchwyr iaith am ei bolisi cynllunio.
Mewn llythyr at Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, ysgrifennodd Arweinydd Cyngor Caerdydd Phil Bale, sydd hefyd yn gyfrifol am gynllunio yn y ddinas: “... ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, daw’r ymateb hwn i’r casgliad nad yw’r defnydd o’r Gymraeg yn rhan o ffabrig cymdeithasol, yn unol â chanllawiau Cenedlaethol. Mae hyn yn golygu nad ystyrir bod cynigion datblygu a nodir yn y Cynllun yn effeithio’n faterol ar gydbwysedd ieithyddol cymunedau ledled Caerdydd, ar draul y defnydd o’r iaith. O ganlyniad, rydw i ar ddeall nad ystyrir unrhyw bolisiau penodol yn angenrheidiol yn y Cynllun i fynd i’r afael â buddiannau penodol yr iaith Gymraeg.”
Mewn llythyr yn ymateb i ohebiaeth wrth yr arolygiaeth gynllunio sy’n ystyried Cynllun Datblygu Lleol Cyngor Caerdydd ar hyn o bryd, ysgrifenna Carl Morris, Cadeirydd Cell Caerdydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae’n rhaid dweud bod yr honiad yn un hurt ac yn gwbl anwybodus, ac yn amlwg yn codi cwestiynau sydd angen eu hateb o ran agwedd a pholisi’r awdurdod a’i swyddogion. Nid ydym o’r farn bod yr honiad yn adlewyrchu cefnogaeth arweinydd presennol y Cyngor i’r iaith, ond yn hytrach anwybodaeth swyddogion yr adran gynllunio. Gofynnwn i chi fynnu bod y Sir yn ei chynllun datblygu yn ystyried y Gymraeg o ran ei statws, y gofynion o ran ysgolion newydd a darpariaeth addysg, a’i lle yn ein cymunedau.
“Ceir nifer o ardaloedd yn y ddinas lle mae'r Gymraeg yn gryf, ond credwn y dylid ystyried dyhead pobl y ddinas i’r Gymraeg ddod yn gryfach ar lawr gwlad yn ogystal. Adlewyrchir cefnogaeth pobl ledled y ddinas yn y galw am addysg cyfrwng Cymraeg. Yn ogystal, ac er nad ydym o’r farn y dylai canrannau na niferoedd siaradwyr fod yn penderfynu a ddylid rhoi ystyriaeth i’r Gymraeg yn y cynllun ai peidio, mae’n glir, nid yn unig o’r degau o filoedd o siaradwyr Cymraeg sy’n byw, yn ymweld â, neu’n gweithio yn y ddinas ond hefyd y nifer o ofodau Cymraeg eu hiaith yn y ddinas, o gapeli ac ysgolion i adeiladau cymdeithasol, bod y Gymraeg yn rhan hynod bwysig o wead cymdeithasol y brifddinas.
“Byddwch yn ymwybodol bod nifer o ddatblygiadau wedi eu henwi yn uniaith Saesneg yn y ddinas dros y blynyddoedd – o “Assembly Square” i “Central Square”. Mae enwi datblygiadau preifat yn uniaith Saesneg yn tanseilio statws a defnydd yr iaith. Ymhellach, ceir nifer o enwau strydoedd uniaith Saesneg yn cael eu codi o’r newydd ac arwyddion uniaith Saesneg sy’n rhan o ddatblygiadau newydd. Caiff y rheiny effaith negyddol ar ddefnydd a statws yr iaith yn ogystal.
“Ymhellach, o ystyried y galw cynyddol am addysg Gymraeg gan drigolion y ddinas, mae angen rhoi ystyriaeth i’r iaith wrth gynllunio datblygiadau tai newydd. Yn benodol, credwn y dylai fod rhagdybiaeth bod unrhyw ddarpariaeth addysg ynghlwm â datblygiad tai newydd yn addysg cyfrwng Cymraeg. Dylid ystyried effaith datblygiadau ar ddefnydd y cenedlaethau i ddod o’r Gymraeg... Er enghraifft, byddai adeiladu stad o dai heb gynyddu darpariaeth addysg cyfrwng Gymraeg neu gan godi arwyddion uniaith Saesneg yn amddifadu'r genhedlaeth nesaf rhag gweld, clywed neu ddefnyddio’r Gymraeg...Felly, rydym yn galw arnoch chi i wrthod cynnig Cyngor Caerdydd o ran geiriad y Cynllun Datblygu Lleol mewn perthynas â’r Gymraeg. Byddwn yn pwyso ar y Cyngor i fabwysiadu newidiadau i’r cynllun datblygu ynghyd ag atodlen iddo sy’n amlinellu polisi ynghylch cynllunio a’r iaith sy’n llawer mwy cynhwysfawr ac sydd â’r bwriad o gefnogi twf yr iaith yn ein prifddinas.”
Bydd swyddogion lleol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cwrdd ag arweinydd y Cyngor Phil Bale i drafod materion cynllunio ar ddiwedd mis Medi.
Yr ohebiaeth rhwng Cymdeithas yr Iaith, Cyngor Caerdydd a'r Arolygiaeth Cynllunio
Y stori yn y wasg: