O heddiw, hyd diwedd wythnos yr Eisteddfod, bydd Cymdeithas yr Iaith yn gofyn i fynychwyr yr wŷl i ddychmygu sut le fyddai Cymru heb y Gymraeg gan ein bod wedi rhybuddio ar ddechrau’r Wyl y gallem golli ein holl gymunedau Cymraeg erbyn y flwyddyn 2020
Er mwyn cyfleu difrifoldeb y neges hon, bydd nifer o aelodau Cymdeithas yr Iaith yn treulio’r wythnos yn mynd heb bethau penodol sydd yn bwysig iddynt hwy. Fel rhan o hyn, bydd rhai yn treulio’r wythnos ar ympryd – naill ai am bum niwrnod neu am ddyddiau unigol. Bydd yr ympryd yn cychwyn am 11am yn uned Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Meddai Ffred Ffransis, un o’r rhai a fydd yn ymprydio:“Dwi wedi gweld newid enfawr yn fy nghymuned Gymraeg fy hunan yn Nyffryn Teifi’n ystod y 5 mlynedd ers troad y ganrif wrth i Gymry ifainc lleol fethu â phrynu tai ac wrth i’r gymuned leol golli’r ysgol a oedd yn ganolbwynt i’r gymuned ac yn Cymreigio plant mewnfudwyr.""‘Dyw ein hawdurdodau cyhoeddus ddim yn cymryd yr argyfwng o ddifri – mae Cynghorau Sir fel Caerfyrddin yn cynhyrchu polisiau ac yn cynnal ffrynt dwyieithog i’r cyhoedd, ond yn cyflawni eu holl waith eu hunain yn Saesneg. Maent yn gosod cynnal cymunedau Cymraeg yn nod strategol ac eto’n cau’r ysgolion Cymraeg.""Mater o ymgyrchu a strategaethau fu hyn i mi yn y gorffennol. Ond nawr dwi’n teimlo i’r byw’n bersonol y gallai ein plant ni fod y genhedlaeth olaf i fwynhau’r rhyddid o fyw mewn cymuned Gymraeg.""Fel arwydd o’r ffaith y gallai maes yr Eisteddfod fod yr unig gymuned Gymraeg ar ol erbyn y flwyddyn 2020, ni byddaf yn ymadael a’r maes trwy’r wythnos ond treulio’r amser yn galw ar Eisteddfodwyr i ymgyrchu. Fel arwydd o’r argyfwng a’r hyn y gallem ni ei golli am byth yng Nghymru, byddaf i ac eraill ar ympryd trwy’r wythnos."Yn ogystal â phwysleisio’r peryglon sydd yn wynebu ein cymunedau Cymraeg – trwy gyfrwng yr ympryd – bydd Cymdeithas yr Iaith hefyd yn tynnu sylw at atebion posib i’r argyfwng. Ychwanegodd Ffred Ffransis:"Nid yw’r dyfodol hwn yn anochel. Ond, bydd yn rhaid wrth ail chwyldro mewn polisiau cyhoeddus yn awr os yw cymunedau Cymraeg i fyw. Bu chwyldro’r chwedegau a’r saithdegau’n effeithiol o ran codi statws y Gymraeg a sicrhau’i lle i’r ganrif newydd. Rhaid yn awr wrth ail chwyldro i sicrhau cyfle byw i’n cymunedau Cymraeg a chyfle i bob cymuned ddatblygu’n Gymraeg.""Rhaid darbwyllo’n Cynulliad Cenedlaethol newydd i fynnu gan San Steffan y grym i basio Deddf Eiddo a Deddf Iaith, a rhaid i’n cyrff cyhoeddus yn ein cymunedau Cymraeg stopio siarad am bolisiau iaith ac yn lle hynny cyflawni’u gwaith trwy gyfrng y Gymraeg gan wneud yr iaith felly’n hanfodol i bob rhan o fywyd y cymunedau hyn. Mae’n dasg enfawr a’r amser mor fyr fel bod yn rhaid cycyhwyn yr wythnos hon o ddifri. Mae’n argyfwng – ond hefyd yn gyfnod cyffrous."Bydd Cymdeithas yr Iaith yn galw ar bob Eisteddfodwr i roi cychwyn ar yr ymgyrchu hwn yn ystod yr wythnos, trwy:- arwyddo’r ddeiseb genedlaethol dros Ddeddf Eiddo i Gymru. Dyma fesur a fydd yn sicrhau tai i bobl leol ac felly’n gwarchod seiliau ein cymunedau.- mynychu’r brotest dros Ddeddf Iaith Newydd a gynhelir ar y maes dydd Mawrth. Byddai Deddf Iaith yn rhoi’r hawl i ni ddefnyddio’r Gymraeg ymmhob rhan o’n bywyd.Ymateb i Her Cymru 2020Bydd yr ymprydio yn dod i ben ar nos Wener (5/8/05) mewn noson wleidyddol fawr a gynhelir yng nhlwb nos Amser. Teitl y noson fydd Cymru 2020 – Ennill Tir, Cadw Iaith a’r bwriad yw i bwysleisio nad yw dirywiad y Gymraeg a’n cymunedau yn anochel. Ond bydd sicrhau newid yn galw am ymgyrchu brys yn ein cymunedau ac am bwyso cryf ar Lywodraeth y Cynulliad. Prif artistiaid ar y noson fydd y grwp hip hop Cymraeg radical; Sleifar a’r Teulu, sef y grwp a arweinir gan Steffan Cravos, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.Stori oddi ar wefan Y Western MailStori oddi ar wefan Y Daily Post