Cymry blaenllaw yn galw am gryfhau'r Mesur Iaith

alunffjones.jpgMae dros wythdeg o Gymry blaenllaw, megis yr Archesgob Barry Morgan a'r awdur Rachel Trezise, wedi galw am newidiadau i'r Mesur Iaith Gymraeg mewn llythyr agored heddiw (Dydd Iau, 4ydd Tachwedd).Yn y llythyr, mae trawstoriad o Gymry amlwg fel yr Archdderwydd T. James Jones, Beti George, yr Athro Prys Morgan, y cyfreithwyr Emyr Lewis a Gwion Lewis a'r bardd Gillian Clarke yn lleisio'u pryderon am y Mesur.Mae'r llythyr yn galw ar y Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones i sicrhau bod y Mesur Iaith arfaethedig yn cynnwys datganiad diamod fod gan y Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru a sefydlu hawliau i bobl dderbyn gwasanaethau.Dywed y llythyr, "Nodwn eich bod wedi cynnig geiriad mwy clir parthed statws y Gymraeg. Croesawn y bwriad y tu ôl i'r gwelliant. Eto, datganiad cyfyng a gafwyd: mewn cyd-destunau penodol yn unig y bydd yr iaith yn swyddogol. Pryderwn y gall fod canlyniadau andwyol i'r Gymraeg mewn cyd-destunau ehangach lle na fydd statws swyddogol ganddi."Ychwanegodd yr awdur Catrin Dafydd:"Mae'r ffaith fod cymaint o Gymry uchel eu parch yn cynrychioli cynifer o wahanol feysydd wedi uno i leisio'u pryder am ddiffyg datganiad diamod o statws i'r Gymraeg yn y Mesur yn gam hynod arwyddocaol. Mae'r rhai sydd wedi arwyddo'r llythyr yn gwneud safiad ar ran pobl ledled Cymru."Rwy'n croesawu'r llythyr ac yn diolch yn fawr i bawb arall sydd wedi ei lofnodi am eu safiad. Mae'r Gymraeg yn perthyn i holl drigolion Cymru, boed yn siaradwyr Cymraeg neu beidio. Mae angen statws swyddogol cyflawn ar y Gymraeg a hawliau i bobl ei defnyddio hi yn y Mesur hwn."

Llythyr gan 80 amlwg yn galw am 'statws swyddogol' - Golwg360 - 04/11/10Mesur Iaith: Llythyr agored at y Gweinidog Treftadaeth - BBC Cymru - 04/11/10Prominent figures sign letter on Welsh language status - BBC Wales - 04/11/10Public figures to call for Welsh to be declared an official language - Western Mail - 04/11/10Y Llythyr:Ysgrifennwn atoch yn sgil y newidiadau i'r Mesur Iaith Gymraeg arfaethedig yr ydych wedi eu cyflwyno.Croesawn eich parodrwydd i wrando ar awgrymiadau am sut i gryfhau'r Mesur er lles y Gymraeg a'i ffyniant. Cynigiwn y sylwadau canlynol yn yr ysbryd hwnnw.Nodwn eich bod wedi cynnig geiriad mwy clir parthed statws y Gymraeg. Croesawn y bwriad y tu ôl i'r gwelliant. Eto, datganiad cyfyng a gafwyd: mewn cyd-destunau penodol yn unig y bydd yr iaith yn swyddogol. Pryderwn y gall fod canlyniadau andwyol i'r Gymraeg mewn cyd-destunau ehangach lle na fydd statws swyddogol ganddi.Mae datganiadau diamod o statws swyddogol yn gyffredin ledled y byd. Eu bwriad, yn aml, yw cryfhau sefyllfa ieithoedd brodorol a fu dan orthrwm. Nid yw'n eglur pam na ellir cymryd y cam hwn er lles y Gymraeg yng Nghymru, yn unol â'r consensws trawsbleidiol yn y Pwyllgor Deddfwriaeth ym mis Gorffennaf.Hefyd, er bod sôn yn y gwelliannau am beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, nid yw'r geiriad yn rhoi i'r Gymraeg na statws na dilysrwydd cyfartal â'r Saesneg.Un o ddiffygion y Mesur drafft oedd absenoldeb hawliau i unigolion. Yr ydym yn eich canmol am addo cyflwyno gwelliant pellach er mwyn rhoi hawl i unigolion apelio yn erbyn penderfyniadau'r Comisiynydd. Edrychwn ymlaen at weld cyhoeddi drafft o'r gwelliant hwn yn fuan. Hoffem hefyd bwysleisio pwysigrwydd cynnwys isafswm o safonau yn y Mesur a chynnwys modd i rai sydd wedi dioddef niwed neu golled yn sgil torri safon dderbyn iawn am hynny.Nid drwy ddeddf yn unig wrth reswm y bydd yr iaith yn cael ei chadw. Serch hynny mae gennych chi a gweddill aelodau ein Cynulliad Cenedlaethol gyfle hanesyddol i unioni'r cam a wnaed â'r iaith Gymraeg dros ganrifoedd dan law'r gyfraith. Am y rheswm hwnnw, hyderwn y byddwch yn ystyried y pwyntiau uchod yn ofalus, ac yn achub ar eich cyfle.Dr Meredydd Evans, Y Parchedig Guto Prys Ap Gwynfor, Yr Archesgob Barry Morgan , Yr Athro Prys Morgan, Yr Archdderwydd T James Jones, Yr Athro Richard Wyn Jones, Emyr Lewis, Gwion Lewis, Beti George, John Elfed Jones, Y Parchedig Meirion Evans, Gillian Clarke, Y tad Seamus Cunnane, Sion Eirian, Llio Rhydderch, Rachel Trezise, Iwan Bala, Mary Lloyd Jones, Gerallt Lloyd Owen, Gwyneth Lewis, John Ogwen, Iola Gregory, Yr Athro Peredur Lynch, Yr Athro John Rowlands, Idris Reynolds, Dr Simon Brooks, Maureen Rhys, Ned Thomas, Yr Athro Geraint H. Jenkins, Manon Rhys, Nigel Jenkins, Dr Mererid Hopwood, Hywel Griffiths, Menna Elfyn, Dr Menna Baines, Catrin Dafydd, Angharad Dafis, Siwan Jones, Owain Young, Phyllis Kinney, Dr Angharad Price , Eurig Salisbury, Dafydd Huws, Dr Llion Jones, Yr Athro Marged Haycock, Lleuwen Steffan, Dr Daniel Williams, Dr Dylan Foster Evans, Robin Llywelyn, Helen Williams-Ellis, Yr Athro Deri Tomos, Ceri Wyn Jones, Geraint Lovgreen, Cian Ciaran, Gai Toms, Meilir Gwynedd, Yr Athro Dafydd Johnston, Meirion MacIntyre Huws, Judith Humphreys, Yr Athro Jane Aaron, Yr Athro Gerwyn Williams, Bethan Gwanas, Angharad Tomos, Gareth Miles, Tudur Dylan, Elwyn Edwards, Dewi Prysor, Christine Mills, Yr Athro Patrick McGuinness, Emyr Wyn, Elin Haf Gruffydd Jones, Aneirin Karadog, Myrddin ap Dafydd, Prydwen Elfed-Owens, Aneurin Jones, Twm Morys, Ryland Teifi, Nia Watcyn Powell, John Hefin, Sian Melangell Dafydd, Dr Jerry Hunter, Wiliam Owen Roberts, Betsan Llwyd, Jan Morris, Emyr Humphreys