Cyn-ganghellor Ceidwadol yn erbyn newidiadau S4C

howethatcher.jpgMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu sylwadau'r Arglwydd Geoffrey Howe, Diprwy Prif Weinidog, Canghellor ac Ysgrifennydd Tramor Prydain o dan Thatcher, yn erbyn cynlluniau'r Llywodraeth am doriadau o dros 40% i S4C ac i gael ei thraflyncu gan y BBC.Roedd yr Arglwydd Howe yn siarad heddiw yn ystod y ddadl ar y Mesur Cyrff Cyhoeddus a fyddai'n caniatau y cynlluniau i fynd trwyddo.Fe ddywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Os nad yw Llywodraeth San Steffan yn gallu sicrhau cefnogaeth yr Arglwydd Howe ei hun, mae'n amlwg nad oes clem ganddyn nhw. Mae cynlluniau'r Llywodraeth a'r BBC yn annoeth ac yn anwybyddu llais unedig arweinwyr pob plaid yng Nghymru a nifer o Arglwyddi uchel eu parch a siaradodd yn Nh?'r Arglwyddi heddiw. Os nad ydynt atal eu cynlluniau, gallan nhw ddisgwyl ymgyrch ffyrnig gan bobl Cymru."