Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymuno â grŵp o sefydliadau amlwg eraill i alw am newidiadau sylweddol i gyfraith arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gynaliadwyedd, gan bryderu bod cynigion diweddaraf y Llywodraeth yn rhy wan i gyflawni’r addewidion beiddgar a wnaethpwyd gan weinidogion.
Anfonwch neges at Lywodraeth Cymru yn galw am gynnwys y Gymraeg yn y Mesur
Heddiw yw dyddiad cau’r ymgynghoriad ar Bapur Gwyn Bil Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, ac mae dadleuwyr allweddol dros Gymru gynaliadwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau ei chynlluniau’n sylweddol.
Mae’r sefydliadau’n cynrychioli amrywiaeth fawr o fuddiannau cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol.
Mae’r meysydd allweddol lle maent yn gobeithio y gall y Bil wneud gwahaniaeth yn cynnwys mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, gwarchod yr amgylchedd naturiol, gwella bywydau’r bobl dlotaf yn y byd, hybu’r Gymraeg a mwy o ‘gyd-gynhyrchu’ gwasanaethau cyhoeddus, fel bod cymunedau’n helpu i gynllunio a chyflenwi gwasanaethau sy’n diwallu eu hanghenion yn well.
Mae’r sefydliadau wedi lleisio eu pryderon bod y cynigion yn y Papur Gwyn yn methu â gwireddu’r Rhaglen Lywodraethu, na rhoi sylw i adroddiadau swyddogol sy’n rhybuddio bod ymdrechion yn y gorffennol wedi methu â chyrraedd y nod. Maent yn ofni, heb welliant sylweddol, y bydd y Bil yn methu â gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r ffordd mae’r Llywodraeth a’r sector cyhoeddus yn gweithredu.
Roedd cysyniad datblygu cynaliadwy’n ganolog i ‘Raglen Lywodraethu’ gweinyddiaeth Carwyn Jones.
Ynddi, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei nod i Gymru “ddod yn ‘genedl un blaned’ gan roi datblygu cynaliadwy wrth wraidd y llywodraeth”.
Yn ei gyflwyniad i’r ddogfen, dywedodd Prif Weinidog Cymru “Rhaid edrych hefyd tua’r dyfodol wrth wneud ein penderfyniadau – at fywydau plant ein plant yn ogystal â chenedlaethau heddiw. Bydd ein holl bolisïau a rhaglenni yn adlewyrchu’r ymrwymiad hwn i gynaliadwyedd a thegwch, a thrwy hynny gallwn sicrhau mai datblygu cynaliadwy yw’r egwyddor sylfaenol sy’n llywio popeth a wnawn. “
Fodd bynnag, mae’r sefydliadau’n credu bod angen gwaith sylweddol i gryfhau’r Bil er mwyn iddo wireddu addewidion Prif Weinidog Cymru.
Ymysg eu pryderon yw’r ffaith nad yw’r ddyletswydd arfaethedig ar y Llywodraeth a chyrff cyhoeddus ond yn gwneud ‘ystyried’ datblygu cynaliadwy’n ofynnol ac mai dim ond at strategaethau ‘lefel uchel’ mae’n berthnasol, yn hytrach na phenderfyniadau beunyddiol ynghylch sut mae Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus yn gwario ein harian.
Mae’r sefydliadau hefyd wedi datgelu canlyniadau arolwg o farn y cyhoedd, sy’n dangos cefnogaeth gan y cyhoedd i weithredu ym maes datblygu cynaliadwy yng Nghymru.
Roedd yr arolwg, a gynhaliwyd gan gwmni Beaufort Research, yn gofyn:
“Datblygu cynaliadwy yw datblygu sy’n diwallu anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai Llywodraeth Cymru geisio bod yn arweinydd byd ym maes datblygu cynaliadwy?”
Dywedodd 63% o’r ymatebwyr eu bod yn cytuno, a dim ond 16% oedd yn anghytuno. ‘Doedd 21% ddim yn gwybod neu roeddent yn gwrthod ateb.
Dywedodd Anne Meikle, gan gynrychioli’r grŵp o sefydliadau:
“Mae gan y Bil hwn, o’i wneud yn iawn, y potensial i wneud gwahaniaeth mawr, gan wella ein hamgylchedd, cryfhau’r Gymraeg, yr economi a’r gymdeithas a gwneud Cymru’n genedl gynaliadwy sy’n arwain y byd.
“Er mwyn sicrhau’r hyn mae ei angen i gyflawni addewidion gweinidogion a’r hyn y mae ei angen ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol, mae’n glir bod angen deddfwriaeth gadarn arnom yn awr. Mae dau adroddiad ar ymagwedd Llywodraeth Cymru at ddatblygu cynaliadwy wedi dangos bod y ddyletswydd bresennol wedi methu â throi’n weithredu cyson ar lawr gwlad hyd yma.”
“Mae Carwyn Jones wedi pwysleisio’r angen i’w Lywodraeth gyflawni dros bobl Cymru ac yn gwbl gywir mae wedi rhoi datblygu cynaliadwy’n uchel ar yr agenda yn ei Raglen Lywodraethu. Mae ein harolwg yn dangos bod y rhan fwyaf o’r cyhoedd hefyd eisiau i Lywodraeth Cymru geisio bod yn arweinwyr byd yn hyn o beth. Felly mae’n siomedig gweld, pan ddaw at yr agwedd allweddol hon ar raglen y Llywodraeth, mai cyflawni yw’r prif beth sydd ar goll.
“Ddwy flynedd ar ôl canlyniad y refferendwm a roddodd bwerau deddfu i Lywodraeth Cymru, rydym ni eisiau i Brif Weinidog Cymru brofi y gall y pwerau hyn wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Rydym ni eisiau i’r Llywodraeth ailysgrifennu’r Bil hwn fel ei fod wir yn sicrhau Cymru gynaliadwy. Oni bai ein bod ni’n gweld newidiadau mawr, bydd Cymru’n bell iawn o gyrraedd y nod o fod yn genedl gynaliadwy sy’n arwain y byd.”
Wrth gyhoeddi bod y mudiad iaith wedi ymuno â galwadau'r grŵpiau eraill, dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sydd yn gweithio ym maes yr amgylchedd:
“Rydan ni’n falch iawn fel mudiad o allu cyd-weithio gydag eraill er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn ganolog i’r Mesur hwn, yn ogystal â sicrhau tegwch yn ehangach i’n hamgylchedd, ein cymunedau a’n heffaith fel gwlad ar y byd. Does dim amheuaeth bod y Gymraeg a’i chymunedau yn dioddef oherwydd penderfyniadau awdurdodau sy’n milwrio yn ei herbyn. Bydden ni’n gweithio efo'r grwpiau hyn i sicrhau bod cymunedau cynaliadwy Cymraeg a’r iaith yn ehangach yn elwa o’r ddeddfwriaeth arfaethedig.”
Y sefydliadau yw: Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Masnach Deg Cymru, Cyfeillion y Ddaear Cymru, Oxfam Cymru, RSPB Cymru, Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Hub Datblygu Rhyngwladol Cymru, WWF Cymru, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru