Cyngor Caerdydd yn rhwystro twf addysg Gymraeg

Mae Cell Caerdydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i’r helynt am ysgol Gymraeg yn Nhrelluest (Grangetown).

Dywed Euros ap Hywel, Swyddog Maes y De, Cymdeithas yr Iaith: “Ymddengys fod y Cyngor yn edrych i fynd am y dewis rhataf, gan esgeuluso’r angen clir sydd yn bodoli am addysg Gymraeg. Mae’r Cyngor yn rhoi addysg gyfrwng Saesneg o flaen addysg Gymraeg unwaith eto. Nid yw’n dderbynniol bod Cyngor Caerdydd hyd yn oed yn ystyried gwneud hyn. Bydd y Gymdeithas yn cydweithio gyda mudiadau eraill sydd o’r un safbwynt er mwyn rhoi pwysau ar y cyngor, a sicrhau na wnant gamgymeriad mawr.”

Addawodd y cyngor adeiladu ysgol gynradd gyfrwng Cymraeg yn ardal Grangetown nol yn 2011. Cytunwyd ar leoliad i adeiladu’r ysgol cyfrwng Gymraeg a chytunodd Llywodraeth Cymru iddi gael ei hadeiladu. Ond nawr, ymddengys fod y cyngor yn ystyried newid cyfeiriad yn llwyr gan wneud yr ysgol yn un Saesneg a drwy gynyddu’r nifer o leoedd yn Ysgol Pwll Coch.

Bu Cell Caerdydd y Gymdeithas yn gofidio y byddai’r cyngor yn gwneud tro pedol fel hyn cyn i’r wybodaeth yma ddod i’r golau. Mewn llythyr at y cynghorydd, a’r Aelod Cabinet dros Addysg a Dysgu Gydol Oes, Julia Magill, ar ddechrau’r mis nododd Cell Caerdydd y Gymdeithas bod ganddynt “bryderon nad oedd y galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg yn cael ei fodloni a rhieni yng Nghaerdydd yn cael eu troi i ffwrdd o Ysgolion Addysg Cyfrwng Cymraeg. Mae'n hysbys bod plant eisoes wedi cael ei gwrthod rhag mynychu Ysgol Coed Gof ac Ysgol Pwll Coch ar gyfer y flwyddyn ysgol nesaf, 2013-14, gan fod lleoedd eisoes yn llawn.”

Hefyd dywed y llythyr; “Mae gofid hefyd, nad yw addewid y cyngor i sicrhau ysgol cyfrwng Gymraeg yn ardal Trelluest wedi dwyn ffrwyth eto. Mae'n rhaid i'r cyngor fod yn cynllunio ar gyfer y cynnydd hwn yn y galw am lefydd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.”