Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu penderfyniad Tribiwnlys y Gymraeg i wrthod apêl gan Gyngor Sir Benfro ynglŷn â Safonau iaith.
Roedd yr awdurdod lleol wedi ceisio apelio yn erbyn penderfyniad Comisiynydd y Gymraeg i roi dyletswydd arno i ddarparu cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd gydag unigolion i drafod eu llesiant, fel bod modd i'r cyfarfod ddigwydd yn Gymraeg.
Wrth ymateb i'r penderfyniad dywedodd Bethan Williams o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg:
“Roedd yn anghyfrifol, yn sarhaus ac yn wastraffus i'r Cyngor fynd drwy'r broses yma er mwyn gwadu hawliau pobl i ddefnyddio'r Gymraeg. Doedden ni'n disgwyl dim llai gan y Tribiwnlys, yn enwedig o weld rhesymau gwan y Cyngor dros herio'r penderfyniad. Rydyn ni'n falch eu bod wedi cytuno â'n dadleuon ni a'r Comisiynydd. Dydyn ni ddim yn mynd i adael i rai o'n pobl fwyaf bregus gael eu hamddifadu o wasanaeth Cymraeg cyflawn pan fo'i angen fwyaf arnynt."
Mae Cyngor Sir Benfro wedi gwrthwynebu cyfundrefn y Safonau Iaith ar bob cyfle. Ond roedden ni'n synnu bod Cyngor Sir Benfro wedi mynd mor bell â herio'u dyletswydd drwy'r Tribiwnlys, a hynny dros Safonau mor bwysig i bobl fregus. Gobeithio y bydd y Cyngor nawr am roi amser ac ymdrech i gynyddu'i ddarpariaeth Gymraeg a hyfforddi staff a chefnogi staff i allu gweithio yn Gymraeg, yn lle gwastraffu arian ac amser ar gamau cyfreithiol er mwyn ceisio gwadu hawliau sylfaenol pobl i ddefnyddio'r Gymraeg."
Dyfarniad y Tribiwnlys
Mae dyfarniad y Tribiwnlys yn ddeifiol wrth ystyried dadleuon Cyngor Sir Penfro:
"Os oedd y Ceisydd am berswadio’r Tribiwnlys bod gofynion safonau 26A a 29A yn rhy feichus, am na fyddai’n bosibl i’r Ceisydd gydymffurfio â hwy mewn ffordd a fyddai’n cyd-fynd â chyfrifoldebau eraill y Ceisydd tuag at bobl fregus, dylent fod wedi bod mewn sefyllfa i drafod yr anawsterau yn agored ac yn fanwl, ar sail tystiolaeth, yn hytrach na dibynnu ar ddatganiadau cyffredinol ysgubol."
Mae dyfarniad llaw y Tribiwnlys i'w weld yma