Cyngor Sir Gaerfyrddin yn penderfynu 'tanseilio cymunedau'

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud bod Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi tanseilio a thynghedu'r sir i dwf aruthrol ym mhoblogaeth y sir wrth dderbyn Cynllun Datblygu Lleol y sir heddiw.

Dywedodd Sioned Elin, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin:

"Er bod yr Arolygydd Cynllunio wedi argymell derbyn y Cynllun Datblygu Lleol fe godwyd nifer o bryderon gennym ni, gan gymunedau lleol a mudiadau ar draws Caerfyrddin yn ystod proses ymgynghori'r Cynllun. Roedd pryderon yn amrywio o faterion ieithyddol, cymunedol, amgylcheddol ac economaidd. Mae'n ymddangos mai'r arolygwyr biau'r gair olaf.
"Ein prif bryder ni oedd bod y ffigwr o 15,000 o dai wedi ei benderfynu ar sail cyfnod pan oedd nifer fawr o bobl yn symud i Sir Gaerfyrddin. Mae'n amlwg bod y cyngor yn cynllunio ar gyfer twf sylweddol mewn poblogaeth, a dydy'r ffordd mae targedau tai cenedlaethol yn cael eu gosod o ddim help. Y cwestiwn yw a fydd swyddi a gwasanaethau iechyd, ysgolion a gwasanaethau hamdden a diwylliant ar gyfer y bobl hyn? Wrth gwrs bod angen tai, ond nid ar y raddfa yma."

Ychwanegodd:

Mae'r cyngor wedi ymateb yn gadarnhaol i ganlyniadau'r Cyfrifiad, a ddangosodd gwymp o 6% yn nifer y siaradwyr Cymraeg ar draws y sir. Mae gyda nhw strategaeth iaith newydd ond bydd 15,000 o dai yn tanseilio unrhyw effaith fydd hynny'n ei gael. Mae fel petai'r Gymraeg yn dal i fod yn ymylol i'r cyngor.”

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal cyfarfod yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin ddydd Sadwrn yr 17eg o Ionawr - Tynged yr Iaith yn Sir Gar. Bydd cyfle i bwyso a mesur y cynnydd yng ngweithredu strategaeth iaith y sir, a holi a yw'r cyngor yn cymeryd y Gymraeg o ddifrif. Manylion llawn - http://cymdeithas.org/digwyddiadau/cyfarfod-agored-tynged-yr-iaith-yn-sir-garneu cysylltwch gyda bethan Williams am ragor o wybdoaeth - bethan@cymdeithas.org

Y stori yn y wasg:

Cyngor Sir Gaerfyrddin yn Cymeradwyo Cynllun Tai Dadleuol - Golwg 360 10/12/14

Cymeradwyo codi hyd at 15,000 o dai yn Sir Gaerfyrddin - Newyddion BBC 10/12/14

15,000 homes plan 'is threat to Welsh language' - Souh Wales Eveving Post 12/12/14