Cyngor Sir Powys yn Llusgo Traed - angen gweledigaeth ar gyfer y Gymraeg

Yn ôl ymgyrchwyr iaith ym Maldwyn, mae Cyngor Sir Powys yn "llusgo'u traed," ac mae angen sefydlu gweithgor fydd yn mynd i'r afael â dirywiad nifer y siaradwyr Cymraeg yn y Sir.

Mewn llythyr at Barry Thomas, arweinydd y Cyngor, heddiw, mae aelodau Cymdeithas yr Iaith yn mynegi pryder nad oes cynnydd wedi bod ers iddynt gyfarfod â swyddogion y Cyngor y llynedd. Gan gyfeirio at ganlyniadau cyfrifiad 2011, a ddangosodd bod nifer yr ardaloedd gyda thros 50% yn gallu siarad Cymraeg wedi crebachu o 8 i 3, a bod nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir 1,800 yn llai dros 10 mlynedd o ganlyniad i batrymau allfudo a mewnfudo, dywed y llythyr:

"Mae angen gweithredu ar frys, ac mae'r hyn sydd angen ei wneud yn glir - mae angen i'r Cyngor ddangos arweiniad - a dechrau gwneud pethau'n wahanol mewn meysydd fel addysg a chynllunio er mwyn i ni weld y Gymraeg yn tyfu eto ym Mhowys."

"Roeddem yn falch eich bod wedi cytuno, mewn cyfarfod y llynedd, i sefydlu gweithgor i edrych ar gamau i wella sefyllfa'r Gymraeg ym Mhowys - a'ch bod yn cytuno gyda ni y dylai'r gweithgor fod yn un trawsbleidiol sydd yn edrych ar bob agwedd o waith y Cyngor. Ond pum mis yn ddiweddarach, nid yw'n ymddangos bod sefydlu'r gweithgor - heb sôn am y cynlluniau bydd y gweithgor yn rhoi ar waith - gam yn nes, felly mae'n rhaid gofyn pam eich bod yn llusgo'ch traed."

Daw'r llythyr wrth i'r ardal baratoi ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2015 ym Meifod, sydd ym marn yr ymgyrchwyr, yn gosod her i'r Cyngor Sir gan y bydd llygaid Cymru gyfan yn troi tuag at Bowys. Yn Eisteddfod Genedlaethol 2014, cynhaliodd Cymdeithas yr Iaith "barti" gyda Chyngor Sir Gâr yn dilyn cyhoeddi adroddiad gweithgor y Gymraeg, ac mae aelodau'r Gymdeithas yn parhau i graffu ar waith y Cyngor yno. Parha'r llythyr:

"Gobeithiwn y bydd yr Eisteddfod yn gyfle i ddathlu bod pethau'n dechrau newid er lles y Gymraeg yn y Sir - ond er mwyn i hynny ddigwydd, rhaid i'r llusgo traed hwn ddod i ben.

Gan fod hyn yn fater brys, awgrymwn y dylech godi'r mater yng nghyfarfod nesaf y Cyngor ar Fawrth 6ed, a datgan yn gyhoeddus eich bod yn sefydlu gweithgor i well sefyllfa'r iaith yn y Sir. Bydd aelodau'r Gymdeithas yn bresennol yn y cyfarfod er mwyn disgwyl eich ymateb i'r llythyr hwn."

Ychwanegodd Arwyn Groe, o Lanerfyl, un o lofnodwyr y llythyr, "Mae ymateb Cyngor Sir Powys hyd yma yn f'atgoffa o falwod mewn tarmac poeth. Mae gan Cyngor Powys gyfle dros yr wythnosau nesaf i ddeffro a dechrau newid pethau er lles yr iaith. Byddwn ni yng Nghangen Maldwyn Cymdeithas yr Iaith, gyda chefnogaeth y mudiad cenedlaethol, yn ymgyrchu - a phrotestio os oes angen - nes i ni weld y Cyngor yn gweithredu o ddifri er lles yr iaith."