Cyngor Sir wedi camarwain Gweinidog Addysg y Cynulliad

Cadwn Ein Hysgolion.JPG Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cael ei ddal yn ceisio camarwain Gweinidog Addysg y Cynulliad ynghylch eu cynllun dadleuol i gau degau o ysgolion pentrefol Cymraeg yn y sir.

Mewn llythyr, wedi’i arwyddo’n bersonol gan Jane Davidson, at swyddogion Cymdeithas yr Iaith dywed nad oes lle i bryderu gan fod y Cyngor wrthi’n ymgynghori ac yn gwahodd sylwadau am eu Strategaeth Moderneiddio Addysg.Ond y mae’r Cyfarwyddwr Addysg a Dirprwy Arweinydd y Cyngor, mewn llythyrau eraill at y Gymdeithas, yn egluro nad oes ganddynt unrhyw fwriad i ganiatau trafodaeth na phleidlais ar y strategaeth ac na fydd unrhyw ymgynghori ond am fanylion tynged ysgolion unigol pan gyhoeddir cynlluniau cau manwl yn y dyfodol.Llythyr Jane Davidson (Gweinidog Addysg y Cynulliad)Dywed Jane Davidson, mewn llythyr at Sioned Elin, Cadeirydd y Gymdeithas yng Nghaerfyrddin:“Mae’r Awdurdod wrthi ar hyn o bryd yn cynnal ymgynghoriad ar y strategaeth ac wedi gwahodd yr holl gyrff a sefydliadau sydd â diddordeb i wneud sylwadau. Yn dilyn yr ymgynghoriad cyffredinol hwn os yw’r Awdurdiod yn penderfynu bwrw ymlaen â’r cynigion unigol, bydd yn ofynnol iddynt gael cymeradwyaeth y Bwrdd Gweithredol cyn y gellir cynnal ymgynghoriad lleol llawn.”Wrth ymateb i’r llythyr, dywedodd Sioned Elin:”Cytunwn yn llwyr gyda Jane Davidson mai dyma’r ffordd gywir i drin y mater, sef cael trafodaeth trwy’r sir ar egwyddorion sylfaenol y strategaeth yn gyntaf cyn symud ymlaen at achosion lleol unigol. Dyna’r alwad yn ein deiseb pum mil o enwau a gyflwynwyd i’r Cyngor. Ond mae’r Cyngor wedi gwrthod caniatâu trafodaeth ddemocrataidd o’r fath nac unrhyw bleidlais yn y siambr. Maen nhw yn hytrach yn mynnu fod y ffaith i’r Cyngor basio - 3 blynedd yn ôl - bapur cyffredinol a gyfeiriodd at y ffaith y byddai’n ‘anorfod llai o ysgolion’ yn rhoi’r hawl iddynt fwrw mlaen gyda degau o gynlluniau cau heb orfod trafod y strategaeth. Mae eu llythyrau nhw atom yn egluro na fydd ond yr ymgynghori statudol am fanylion cau ysgolion penodol yn y dyfodol. Gwrthodant unrhyw drafodaeth am yr egwyddorion sylfaenol.”Llythyr Alun Davies (Cyfarwyddwr Addysg Sir Gaerfyrddin)Dywed y Cyfarwyddwr Addysg, Alun Davies, mewn llythyr at Ffred Ffransis, llefarydd y Gymdeithas ar Addysg:“Caraf eich sicrhau y cynhelir ymgynghoriadau llawn ynghylch pob achos unigol ar yr amserau priodol.”Mae Mr Davies yn mynnu i’r Cyngor drafod egwyddorion y strategaeth yn fras ym 2001, ac felly nad oes angen trafodaeth bellach.Llythyr Y Cyng Martin Morris (Arweinydd y Grwp Llafur, a dirprwy arweinydd y Cyngor)Dywed y Cyng Martin Morris mewn llythyr at Ffred Ffransis :“The consultation will be just as you suggest purely on an individual proposal for closure..There will not be any consultation on the underlying principles as they were agreed in 2001”.Camarwain Gweinidog Addysg y CynulliadDywed Ffred Ffransis:“Mae’r llythyr hwn yn gwrth-ddweud llythyr y Gweinidog Addysg yn llwyr. Mae’n amlwg iddi gael ei chamarwain gan na fuasai wedi dweud anwiredd felly wrthym. Mae strategaeth y Cyngor yn gwbl groes hefyd i ganllawiau’r Cynulliad ar ysgolion bychain gan nad oes ynddi unrhyw ymdrech i:• Ystyried dulliau amgen heblaw am gau ysgolion. Yr un ateb o gau ysgolion a chreu ysgol ganolog sydd ym mhob achos.• Werthuso’r effaith ar gymunedau lleol• Gyfiawnhau’r strategaeth ar sail addysgol.• Ystyried yr effaith ar y Gymraeg – gan y byddai gweithredu’r strategaeth yn dileu dros nos holl Gynllun Addysg Gymraeg y Cyngor (yn seiliedig ar ysgolion pentrefol categori “A” Cymraeg eu cyfrwng) a gyflwynwyd i’r Cynulliad.“Am y rhesymau hyn oll, ac am iddi gael ei chamarwain yn llwyr o ran y diffyg ymgynghori, yr ydym wedi gofyn i Ms Davidson egluro’n gyhoeddus i’r Cyngor Sir na fyddai’n derbyn unrhyw gynlluniau cau ysgolion sy’n seiliedig ar strategaeth o’r fath ac i alw am yr ‘Ymgynghoriad ar y strategaeth’ yr oedd hi ei hunan dan yr argraff a oedd yn digwydd.”Gwybodaeth Pellach:• Cewch fwy o wybodaeth am yr ymgyrch yn gyffredinol ar www.cadwneinhysgolion.com• Bydd cyfarfod – ar Ionawr 13eg - i sefydlu fforwm cynrychioladol o ysgolion a chymunedau trwy’r sir i wrthwynebu’r strategaeth.Stori oddi ar wefan y Western Mail