Cynllun Datblygu Unedol Ceredigion

 crestceredigion.gif Am 10 y bore yma fe fydd Cabinet Cyngor Sir Ceredigion yn cyfarfod i drafod rhai o gasgliadau yr Arolygwyr annibynol a arweiniodd yr ymchwiliad cyhoeddus a oedd yn edrych ar Gynllun Datblygu Unedol y sir. Yn nhyb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mae honiadau arweinwyr Cyngor Ceredigion ynglyn â chasgliadau yr Ymchwiliad Cyhoeddus hwn yn gamarweiniol. Yn groes i'r adroddiadau sydd wedi ymddangos yn y wasg hyd yn hyn, mae adroddiad yr Arolygwyr Mr Alwyn Nixon a Ms Stephanie Chivers yn cynnwys nifer o newidiadau a beirniadaethau penodol.

Hyd yn hyn, nid yw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi derbyn copi o adroddiad llawn yr Arolygwyr. Serch hynny, o edrych yn fanwl ar gynnws y papur briffio (uniaith Saesneg) a baratowyd gan swyddogion adran gynllunio'r Cyngor i'r cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ddechrau Ionawr, gwelir bod casgliadau'r Arolygwyr yn cynnwys cyfres o newidiadau a beirnaidaethau penodol. Yn eu plith ceir y canlynol:1. Datblygu a'r Iaith GymraegMae'r Arolygwyr yn galw am gryfhau'r adran o'r CDU sydd yn trafod lle'r iaith Gymraeg yn y broses o ddatblygu (Polisi GEN 3). Caiff y geiriad canlynol ei argymell:"Development will not be permitted where it would have a significant adverse impact on the Welsh language ..." (Argymhelliad yr Arolygwyr Dyfynwyd ym Mhapur Swyddogion yr Adran Gynllunio, Atodiad 2, 23/12/05).Golyga hyn fod disgwyl i'r cyngor ei gwneud yn llawer mwy eglur nad ydynt yn bwriadu rhoi caniatad i ddatblygiadau a fydd yn cael effaith niweidiol ar ragolygon yr iaith Gymraeg.2. Ffinniau'r AneddleoeddUn o feinrniadaethau mwyaf arwyddocaol yr Arolygwyr yw'r un sydd yn ymwneud â'r modd y mae'r Cyngor wedi mynd ati i ddyrannu tir ar gyfer datblygu mewn aneddleoedd ar draws y sir. Y ddadl glir a gyflwynir yw bod y Cyngor wedi tueddu i ddyrannu gormod o dir a bod hyn o bosib yn mynd i arwain at ddatblygu gormod o dai neu y math anghywir o dai.Yn ôl adroddiad swyddogion yr adran gynllunio i gabinet y Cyngor:"The Inspector's Report suggests ... the boundaries have been drawn too generously ... The boundaries were originally drawn to accommodate 6500 units, this was not reduced when the number was amended to 5000 units ... An excess of land over need coupled with the possibility of allowing development above the housing requirement ... could create an excess of new housing ..." ,(Papur Swyddogion yr Adran Gynllunio, Atodiad 2, 23/12.05).Mae'r swyddogion cynllunio hefyd yn dyfynu'r canlynol o adroddiad yr Arolygwyr:"... the overprovision of potential development land ... would create real potential for excessive housing provision in these settlements. This could cumulatively lead to a significant overprovision of housing in smaller communities over the Plan period, causing unnecessarily rapid rates of growth and undermining the sustainability principles of the development distribution strategy" (Adroddiad yr Arolygwyr: Para 1.1.77 - Dyfynwyd gan Swyddogion yr Adran Gynllunio, Atodiad 2, 23/12/05).Ymhellach, nodir fod y cyngor wedi bod yn rhy barod i gynnwys cynseiliau yn y CDU a fyddai'n caniatau iddynt i ddatblygu y tu hwnt i ffinniau aneddleoedd penodol:3. Mesur Effaith Posib DatblygiadauMae'r Arolygwyr wedi paratoi geiriad cwbwl newydd i'r adran o'r CDU sydd yn yn trafod sut i 'Fesur Effaith Datblygiadau' ar gymunedau lleol (Polisi CER 1.1). Mae'r geiriad newydd hwn yn cynnwys y canlynol:"Development will be refused unless it can be demonstrated that the settlement can absorb the proposed rate, type and timing of growth ... without eroding the social, cultural or linguistic fabric of the community" (Argymhelliad yr Arolygwyr - Dyfynwyd ym Mhapur Swyddogion yr Adran Gynllunio, Atodiad 2, 23/12/05).Dengys hyn newid pwyslais llwyr. Cynt roedd y polisi yn cynnwys rhagfarn o blaid datblygu, ond bellach nodir y bydd disgwyl i'r sawl sydd yn dymuno datblygu i brofi na fydd eu cynlluniau yn cael effaith niwiediol ar ragolygon cymdeithasol, diwylliannol neu ieithyddol y gymuned.