Cynllunio ar gyfer y Gymraeg yn haeddu sylw proffesiynol

bawd_deddf_eiddo.jpgMae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Eifion Bowen, Pennaeth Cynllunio Cyngor SirGâr, i derfynu'r broses o ganiatau i gwmniau datblygu fynd ati eu hunain i baratoi'r Astudiaethau Effaith ar y Gymraeg.

Dywed Angharad Clwyd, Swyddog Maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith, yn ei llythyr at Eifion Bowen:"Mae'n amlwg y bydd y cwmniau datblygu yn rhagfarnllyd o blaid eu datblygiadau a heb unrhyw fath o arbenigedd yn y maes. Enghraifft amlwg diweddar o'r camgymeriadau elfenol a achosir gan y diffyg arbenigedd yma yw achos Porthyrhyd lle y dywedir gan y cwmni datblygu Lovell fod yna gynydd wedi bod yng nghanran y siaradwyr Cymraeg o 55% i 64% rhwng cyfrifiad 1991 a 2001.Camddehongliad llwyr o'r ffigyrau oedd hyn. Mae'n wir i ddweud fod cyfrifiad 1991 yn dangos mai 55% o bobl Sir Gâr oedd yn siarad Cymraeg, ond erbyn 2001 roedd geiriad y cwestiwn wedi newid.Gofynwyd a oes gennych ddealltwriaeth o'r Gymraeg yn hytrach na a ydych yn siarad Cymraeg. Mewn gwirionedd 50% o bobl Sir Gâr oedd yn siarad Cymraeg erbyn cyfrifiad 2001.Mae cynllunio ar gyfer y Gymraeg yn haeddu'r un sylw proffesiynol ag unrhyw faes arall, ac nid yw astudiaethau amaturaidd gan ddatblygwyr tai yn dderbyniol.Gofynwn felly ar y Cyngor i sefydlu tim eu hunain i asesu y galw lleol am dai ac effaith datblygiad posib ar y gymuned ac ar yr iaith. Gall yr un tim fod yn gyfrifol am asesu'r effaith o gau ysgol ar gymuned ac ar yr iaith Gymraeg gan ei fod yn amlwg nad oes unrhyw arbenigedd ym maes cynllunio gan yr adran addysg chwaeth.Hyderwn y byddwch o blaid cynyddu safonau proffesiynol y Cyngor trwy gymryd y camau hyn."