Bydd Cymdeithas yr Iaith cynnal rali Nid yw Cymru ar Werth 60 mlynedd ers traddodi darlith ‘Tynged yr Iaith’ gan Saunders Lewis, a sbardunodd sefydlu’r mudiad.
Ar y 19eg o Chwefror bydd un o gyn-gadeiryddion Cymdeithas yr Iaith sydd yn byw yng Nhalgarreg, Heledd Gwyndaf, yn dechrau’r rali ar bont Trefechan, lle cynhaliwyd protest gyntaf y mudiad ym 1963. Yna bydd ymgyrchwyr yn gorymdeithio at swyddfeydd Llywodraeth Cymru lle bydd Mabli Siriol, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith; Bryn Fôn; Mared Edwards, Llywydd UMCA, a Gwenno Morris, sydd yn chwilio am dŷ yn ardal Llandysul, yn eu hannerch.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesau’r mesurau i fynd i’r afael â thai haf yn y cytundeb rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru, ond yn pwysleisio bod y broblem yn ehangach na thai haf a bod angen Deddf Eiddo fydd yn sicrhau cartref i bawb. Ymysg y mesurau yn y cytundeb rhwng y ddwy blaid mae cynllun peilot fydd yn profi mesurau i leihau nifer yr ail dai yn Nwyfor ac ymgynghoriad ar gyflwyno cais cynllunio I newid dosbarth defnydd tai o gartref i dŷ gwyliau.
Dywedodd un o drefnwyr y rali, Osian Jones:
“Mae wedi dod yn amlwg yn ddiweddar fod pwysau pobl Cymru am gyfiawnder yn y farchnad dai ac am gamau i sicrhau'r hawl i fyw yn lleol wedi cael effaith sylweddol ar y llywodraeth. Maen nhw wedi cyhoeddi camau i gyflwyno rheolau cynllunio newydd a threthi newydd posibl i atal colli gormod o'n stoc tai i’r farchnad ail gartrefi ac AirBnB.
“Ar ddechrau blwyddyn o ddathlu chwe deg mlwyddiant Cymdeithas yr Iaith mae’n gyfle i ni atgoffa’n hunain bod ymgyrchu talu ffordd heddiw gymaint ag erioed felly mae angen dal i bwyso. Daliwn i bwyso i sicrhau na fydd y llywodraeth yn cyfaddawdu, ond yn blaenoriaethu cymunedau nid cyfalafiaeth. A daliwn i bwyso dros ymrwymiad i basio Deddf Eiddo gyflawn i sicrhau cyfiawnder o'r diwedd a pharhad i'n cymunedau trwy fod ystyried tai yn asedau cymdeithasol i ddarparu cartrefi, nid fel asedau masnachol i wneud elw.
Heddiw mae 60 diwrnod cyn y rali 60mlwyddiant hon. Byddwn yn cyfri lawr y dyddiau at y rali ac yn cyhoeddi rhagor o fanylion bob dydd ar dudalen facebook y digwyddiad."