
Yn ystod yr argyfwng Coronafeirws, mae staff y Gymdeithas yn gweithio o adref. Mae gwaith y Gymdeithas yn mynd yn ei flaen wrth gwrs ac mae croeso i chi gysylltu dros ebost neu gwblhau'r ffurflen ar waelod y dudalen hon.
-
Siôn Trewyn (Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt Gwleidyddol): cyfathrebu@cymdeithas.cymru
-
Carol Jenkins (Ysgrifennydd Cyffredinol): post@cymdeithas.cymru
-
Gwion Emyr (Swyddog Maes y Gogledd): gogledd@cymdeithas.cymru
Gallwch hefyd ffonio 01970-624501 (mae'r galwadau'n cael eu trosglwyddo i'r Ysgrifennydd Cyffredinol). Gofynnir yn garedig i chi beidio ffonio swyddfa'r gogledd gan na fydd unrhyw un yno i gymryd eich galwad, na gwirio negeseuon llais.
Os oes angen i chi bostio rhywbeth, a wnewch chi ei anfon i'n cyfeiriad newydd: Cymdeithas yr Iaith, Canolfan Merched y Wawr, Stryd yr Efail, Aberystwyth SY23 1JH.
Rydym yn cynnal ein holl gyfarfodydd ar-lein ar hyn o bryd – dros Zoom fel arfer – felly mae'n gyfle arbennig i chi ymuno yn y trafodaethau heb orfod adael y tŷ! Dyma gyfle gwych hefyd i gychwyn cell neu grŵp yn eich ardal er mwyn trafod pryderon lleol. Cysylltwch os am wybodaeth bellach neu os am ymuno yn un o'r sgyrsiau. Mae'r holl wybodaeth yma: https://cymdeithas.cymru/digwyddiadau