Ar 7 Hydref, cynhaliodd ELEN (European Language Equality Network) ei Chynulliad Cyffredinol yn Casteddu (Cagliari), prifddinas Sardinia. Mae ELEN yn uno 174 o fudiadau iaith, sy’n cynrychioli 50 o ieithoedd lleiafrifol a 50 miliwn o siaradwyr ar draws 25 gwlad. Roedd Cymdeithas yr Iaith yn un o’r mudiadau a fynychodd y Cynulliad.
Prif alwad y Cynulliad oedd mynnu bod yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi statws swyddogol i’r Gatalaneg, Basgeg a Galiseg, yn wyneb oedi dros y mater. Yn ogystal â hyn, cymeradwyodd y Cynulliad yn unfrydol wrthdystiad yng Ngwlad y Basg ar 4 Tachwedd yn erbyn ymyraethau gan lywodraeth ganolog Sbaen a’r farnwriaeth yn erbyn yr iaith Fasgeg. Bu galwadau unfrydol hefyd ar lywodraethau'r Eidal a Ffrainc i gadarnhau eu hymrwymiad i’r Siarter Ewropeaidd ar Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol.
Defnyddiodd Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith, y cyfle i gyflwyno'r ymgyrch y mudiad dros Ddeddf Eiddo. Eglurodd hanes y frwydr, yr heriau sy’n parhau i wynebu cymunedau ledled Cymru, ac amlinellodd gynigion y Gymdeithas ar gyfer Deddf Eiddo gynhwysfawr fyddai’n sicrhau mewn cyfraith mai asedau cymunedol yw tai.
Yn trafod yr ymateb i’w gyflwyniad, dywedodd Jeff:
“Roedd pobl yn gweld y cynnwys yn ddiddorol ac yn gweld y sefyllfa yng Nghymru yn gyffelyb i'w sefyllfaoedd nhw mewn sawl ffordd. Soniodd ymgyrchwyr o sawl gwlad am effaith niweidiol y farchnad dai agored ar gymunedau ac ieithoedd lleiafrifol. Ymddengys mai problem fawr a phellgyrhaeddol yw hon lle gallai Cymru osod esiampl i wledydd eraill.”
Fis Tachwedd, bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal cynhadledd ‘Yr Hawl i Dai Digonol – Beth Sy’n Bosibl yng Nghymru’ gyda siaradwyr rhyngwladol yn egluro’r diwygiadau sydd wedi’u cyflawni ledled Ewrop, a’r hyn all gael ei gyflawni yng Nghymru gydag ewyllys gwleidyddol digonol.