Mae cyn-Arweinydd Plaid Cymru Dafydd Wigley wedi datgan ei gefnogaeth i ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros newidiadau i Fil Cynllunio Llywodraeth Cymru er mwyn cryfhau'r iaith ar lefel gymunedol.
Cafodd deddfwriaeth y Llywodraeth ei gyhoeddi ddechrau'r mis, ac mae wedi corddi ymgyrchwyr iaith am iddo anwybyddu'r Gymraeg yn ogystal â chanoli grym yng Nghaerdydd. Mae grŵp pwyso Cymdeithas yr Iaith, a gyhoeddodd cynlluniau deddfwriaethol amgen yn gynharach eleni, wedi galw am Fil Cynllunio sy’n:
-
Datgan mai pwrpas y system gynllunio yw rheoli tir mewn ffordd sy’n gynaliadwy’n amgylcheddol, yn taclo tlodi ac yn hybu’r Gymraeg
-
Asesu anghenion lleol fel man cychwyn a sylfaen pendant i gynlluniau datblygu, yn hytrach na thargedau tai sy’n seiliedig ar amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol
-
Sicrhau bod effaith datblygiadau ar y Gymraeg yn cael ei asesu.
-
Rhoi grym cyfreithiol i gynghorwyr ystyried y Gymraeg wrth dderbyn neu wrthod cynlluniau, drwy wneud y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol statudol
-
Sefydlu Tribiwnlys Cynllunio i Gymru, y mae cymunedau yn gallu apelio iddo
Wrth ddatgan ei gefnogaeth i ymgyrch y mudiad iaith, dywedodd Dafydd Wigley: "Rwy'n falch o gefnogi ymgyrch y Gymdeithas i sicrhau bod y Bil Cynllunio yn adlewyrchu anghenion Cymru, yn hytrach na'r drefn rydyn ni fel gwlad wedi ei hetifeddu gan San Steffan. Gan fod Carwyn Jones yn gyfrifol am yr iaith, mi fyddai rhywun wedi disgwyl iddo ei gwneud yn rhan ganolog o'r Bil, yn hytrach na'i hanwybyddu'n llwyr. Mae angen i ni fel gwlad camu ymlaen yn hyderus: gallai'r Gymraeg fod y brif iaith gymunedol ledled Cymru dros amser gyda fframwaith a fyddai'n llesol iddi.
"Mae'r Gymraeg yn perthyn i bob rhan o Gymru yn barod, mae cymunedau Cymraeg a'u ffyniant yn hanfodol i'r Gymraeg ar draws Cymru gyfan, oherwydd mae parhad yr iaith yn dibynnu ar ardaloedd lle mai'r Gymraeg yw prif iaith. Mae rhaid i'r ddeddfwriaeth seilio'r drefn ar anghenion lleol, gyda'r Gymraeg yn ystyriaeth ganolog iddi, os yw hi'n mynd i fod yn Bil i Gymru, ein cymunedau a'n pobl yn hytrach na bod yn gyfleus i'r gweinyddwyr yn unig."
Ychwanegodd Tamsin Davies, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith: "Rydyn ni'n falch iawn o dderbyn cefnogaeth Dafydd Wigley, rhywun ymysg cannoedd eraill sy'n sylweddoli pwysigrwydd y Bil hwn i hyfywedd yr iaith yn ein cymunedau. Byddwn ni'n cwrdd â Llywodraeth Cymru a gwleidyddion o bob plaid dros yr wythnosau nesaf i bwyso am newidiadau i'r Bil er lles y Gymraeg a'n cymunedau."