Dal i boeni am annibynniaeth S4C yn dilyn cyfarfod gyda Mark Thompson

bbc-mark-thompson.jpgBu aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn cwrdd gyda Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Mark Thompson, yng Nghaerdydd heddiw i drafod dyfodol S4C.Mae Cymdeithas yr Iaith yn poeni am annibyniaeth a chyllid S4C ar ôl i Lywodraeth San Steffan benderfynu newid y ffordd y mae'r sianel yn cael ei ariannu heb ymgynghori gyda unrhyw un yng Nghymru.Yn dilyn y cyfarfod dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, ei bod hi yn parhau i boeni am y sefyllfa:"Rydyn ni'n pryderu fod y llywodraeth a'r BBC ddim yn gwybod beth maen nhw'n ei wneud. Rydyn ni wedi gofyn yn ffurfiol i'r BBC dynnu mas o'r ddêl gyda'r llywodraeth am eu bod yn rhoi dyfodol S4C yn y fantol a hefyd i dynnu mas o'r trafodaethau gydag S4C am eu bod nhw'n hollol annemocrataidd.""Rydyn ni'n galw ar y BBC i barchu barn unfrydol pedair prif blaid Cymru drwy dynnu allan o'r ddel bresennol gyda'r llywodraeth er mwyn caniatau arolwg llawn o'r sianel cyn gwneud unrhyw benderfyniad."S4C: Protestwyr iaith yn trafod â phennaeth y BBC, BBC Cymru, 11/03/2011BBC's Mark Thompson's pledge on independent S4C, BBC Wales, 11/03/2011