Darpariaeth iechyd yn Gymraeg "yn fwy pwysig nag erioed"

Wrth i'r Llywodraeth ddatblygu'r cynllun gwaith newydd ar gyfer Mwy na geiriau dywed Cymdeithas yr Iaith ei bod yn ymwrthod â'r bwriad i 'gyflwyno'n raddol lefel "cwrteisi" sylfaenol'.

Lansiodd Llywodraeth Cymru fframwaith Mwy Na Geiriau ar gyfer gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol, ym mis Mawrth 2016. Sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen llynedd i ddatblygu cynllun gwaith pum mlynedd ar gyfer y fframwaith, a bydd yn cyflwyno drafft i'r llywodraeth ym mis Ebrill. Nes hynny mae'r grŵp gorchwyl a gorffen yn trafod gyda phartneriaid a'r rhai sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn argymell targed clir i sicrhau fod pawb yn cyrraedd lefel cwrteisi sylfaenol ymhen amser penodol a bod Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn ariannu gwersi Cymraeg am ddim i staff y sector iechyd a gofal cymdeithasol, yn unol â'r drefn yn y sector addysg.

Yn ei sylwadau dywed Cymdeithas yr Iaith:

"Ein gweledigaeth yw y bydd y Gymraeg wedi'i gwreiddio'n ddwfn mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru fel bod siaradwyr Cymraeg yn cael mynediad uniongyrchol at ofal o'r ansawdd gorau sy'n diwallu eu hanghenion iaith heb beryglu eu sefyllfa. Yn hyn o beth, gall cleifion a defnyddwyr gwasanaeth ddisgwyl derbyn gwasanaethau Cymraeg fel mater o drefn heb iddynt orfod gofyn amdanynt...[mae] defnydd yr iaith o fewn y gwasanaeth iechyd yn gwbl ddibynnol ar hyn o bryd ar unigolion sydd yn gwthio'r agenda. Os ydy'r unigolion yma'n gadael eu swyddi, yna mae'r ymdrech yn mynd yn ofer. Gall hyn ddim parhau ac mae angen i'r Gymraeg gael ei hystyried yn rhan allweddol o bob agwedd o ofal iechyd i sicrhau cysondeb sylfaenol ar draws y gwasanaeth."

Rhan o'r ateb yn ôl y mudiad iaith yw gosod disgwyliadau ar reolwyr i adrodd ar sgiliau Cymraeg staff. Mae disgwyl i staff gyflwyno tystiolaeth yn gyson i'w cyflogwyr a'u cyrff rheoleiddio proffesiynol ar sgiliau a chymwysterau eraill a gellid ychwanegu sgiliau Cymraeg at hynny, tra yn darparu gwersi Cymraeg am ddim.

Ymhellach, mae gwir angen gosod cwotâu ar gyfer recriwtio nifer digonol o siaradwyr Cymraeg rhugl ar gyfer gweithlu'r dyfodol. Gyda dyfodiad Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru, rhaid sicrhau fod egwyddorion Mwy na Geiriau yn cael eu gwreiddio o'r dechrau.
Bu Heddlu Gogledd Cymru yn llwyddiannus wrth osod targed er mwyn sicrhau fod y gweithlu cyfan yn medru'r Gymraeg ar lefel sylfaenol o leiaf.  Oherwydd natur y gwaith yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol a sefyllfa fregus defnyddwyr gwasanaeth mae Cymdeithas yr Iaith yn dadlau fod gosod a chyrraedd targed o'r fath yn fwy pwysig nag erioed yn y sector hon.

Dyma'r llythyr yn llawn:

Annwyl Weinidog

Gweithredu Cynllun Pum Mlynedd Mwy na Geiriau 2022-2027

Ysgrifennaf atoch ar ran Grŵp Iechyd a Lles Cymdeithas yr Iaith i fynegi ein anniddigrwydd llwyr ynghylch y diffyg cynnydd i  weithredu Cynllun Pum Mlynedd Mwy na Geiriau 2022-2027 a lansiwyd flwyddyn yn ôl yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion.

Wrth drafod eich gweledigaeth am ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal drwy gyfrwng y Gymraeg, roeddech  yn cydnabod bryd hynny bod angen ‘cynnig mwy, a hynny’n gyflymach’. Mae’n ymddangos bellach mai geiriau gwag oedd y rhain wrth i chi fethu gwireddu eich nod i sefydlu bwrdd cynghori newydd yn ystod 2022 i arwain y cynllun, gan achosi oedi difrifol i’r rhaglen waith. Mae’n flwyddyn bellach ers y lansiad a ninnau’n disgwyl yn eiddgar am yr adroddiad blynyddol cyntaf, heb sôn am gadarnhad ynghylch sefydlu'r bwrdd cynghori a'i waith craffu ar gamau gweithredu’r cynllun. Mae’r fath oedi’n achosi pryder cynyddol i ni fel Cymdeithas ac anobaith llwyr i gleifion a defnyddwyr gwasanaeth ar draws Cymru sydd wir angen cael mynediad uniongyrchol at driniaeth a gofal o'r ansawdd gorau sy’n diwallu eu hanghenion iaith.

Rydym yn galw arnoch i ymateb ar frys fel a ganlyn:

    • Esbonio’r rheswm am yr oedi a‘r effaith ar weddill yr amserlen.
    • Cyhoeddi enwau aelodau a chadeirydd y bwrdd cynghori newydd.
    • Cyhoeddi adroddiad blynyddol cyntaf y cynllun.

Edrychwn ymlaen at gael clywed gennych.

Yn gywir

Gwerfyl Roberts
Cadeirydd
Grŵp Iechyd a Lles
Cymdeithas yr Iaith