Datganiad Bwrdd yr Iaith yn fuddugoliaeth i'r Gymdeithas

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn croesawu datganiad Bwrdd yr Iaith Gymraeg fod angen adolygu Deddf Iaith 1993. Dywedodd Dafydd Morgan Lewis ar ran y Gymdeithas:"Mae’r datganiad hwn wnaed gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg heddiw yn gosod y Bwrdd yn yr un gwersyll â’r rhai sydd fel ni yn galw am Ddeddf Iaith gryfach. Croesewir hefyd eu pwyslais ar 'hawliau ieithyddol' ac mae’r son am 'reoleiddiwr iaith' yn ddiddorol."

"Bellach Alun Pugh y Gweinidog Diwylliant a Llywodraeth y Cynulliad yw’r unig rai sy’n tynnu’n groes i’r consensws sydd wedi codi yng Nghymru am yr angen an Ddeddf Iaith gryfach.""Fel Cymdeithas credwn y gallai’r adolygiad hwnnw ddechrau yn y cyfarfod cyhoeddus ar Ddeddf Iaith y mae’r Gymdeithas yn ei drefnu yng Nghanolfan y Mileniwm Caerdydd am 7 o’r gloch nos Fawrth Ionawr 24ain.""Ymysg y rhai sydd wedi anfon negeseuon o gefnogaeth i’r cyfarfod hwnnw mae yr Arglwydd Gwilym Prys Davies, Eileen Beasley, Dafydd Wigley, Jill Evans ASE, Meredydd Evans, Robyn Lewis, Elfyn Llwyd AS ac Archdderwydd Cymru Selwyn Griffith.""Bydd John Elfed Jones Cadeirydd cyntaf Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Dr Colin Williams aelod o’r Bwrdd presennol yn cymryd rhan yn y cyfarfod.""Mae’n braf gweld fod holl weithgarwch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros Ddeddf Iaith gryfach bellach yn dwyn ffrwyth."Bwrdd Yr Iaith Gymraeg Yn Cyhoeddi Papur Safbwynt Ar Sefyllfa Ddeddfwriaethol Y Gymraeg - Gwefan Bwrdd yr IaithStori oddi ar wefan BBC Cymru'r BydStori o'r Daily PostStori oddi ar wefan y Western MailStori 2 oddi ar wefan y Western MailStori oddi ar wefan BBC Wales