Fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn mynd â neges glir i'r Pwyllgor Materion Cymreig yn Llundain ddydd Llun nesaf, sef y dylid datganoli holl bwerau dros y Gymraeg o San Steffan i Gymru, heb unrhyw gyfyngiadau. Bydd y ddirprwyaeth o'r Gymdeithas yn cyflwyno tystiolaeth newydd ger bron y Pwyllgor, fydd yn profi anghydraddoldebau yn y gwasanaethau Cymraeg presennol, ynghyd ag adlewyrchu dyhead pobl Cymru i fedru deddfu yn maes y Gymraeg yng Nghymru.Dywedodd Menna Machreth Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Fe fyddwn fel dirprwyaeth yn pwysleisio yn gryf iawn fod y pwerau deddfu dros y Gymraeg yn cael eu trosglwyddo'n gyfan gwbwl o Lundain i Gaerdydd. Fe fyddwn hefyd yn mynnu fod y Gorchymyn yn cael ei ehangu, gan sicrhau fod ganddo ni ddigon o bwerau yng Nghymru i ddeddfu ar ddarparwyr nwyddau, gwasanaethau a chyfleusterau i'r cyhoedd yng Nghymru, fel yr ydym yn gweld yn gymwys, yn y dyfodol. Nid ydym am dychwelyd dro ar ôl tro i Lundain i ofyn am fwy o pwerau, pan fyddwn am ddeddfu i ateb y datblygiadau ieithyddol fydd yn sicr o ddigwydd dros y degawdau nesaf."Tystiolaeth Cymdeithas yr Iaith i Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan (PDF - Saesneg)Tystiolaeth Cymdeithas yr Iaith i Bwyllgor Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru (PDF - Cymraeg)
Mae'r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol yn cynnwys sawl cymal sydd yn amharu ar hawliau llawn i ddeddfu yn maes y Gymraeg yn y dyfodol. Ni fydd yn bosib creu mesurau iaith fydd yn galw ar archfarchnadoedd enfawr i sicrhau gwasanaeth ddwyieithog, na chwmnïau bysys, banciau, a chwmnïau trethi. Nid oes ychwaith hawliau ieithyddol wedi cael eu cynnwys yn y Gorchymyn, er gwaethaf yr ymrwymiad clir i sefydlu hawliau ym mhapur Cymru'n Un.Ychwanegodd Menna:"Byddwn yn mynnu fod pwyslais cwbwl glir ar yr hawl i ddefnyddio a siarad y Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd. Mae'r hawl i addysg drwy gyfrwng y Gymraeg a'r hawl i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle yn ganolog. Byddwn hefyd yn cyflwyno tystiolaeth fydd yn gwrthbrofi awgrymiad y CBI, y byddai cwmnïau mawrion yn ei heglu hi i ffwrdd dros y ffin pe bai galw arnynt i weithredu polisïau dwyieithog dan Ddeddf Iaith newydd. Credwn mai'r gwrthwyneb sydd yn wir, ac y byddai Mesur Iaith gynhwysfawr yn hwb i economi Cymru, gyda mwy o fusnesau yn sefydlu canghennau a swyddfeydd yng Nghymru."Rhoddir y dystiolaeth ar ran y Gymdeithas gan Menna Machreth (Cadeirydd), Sioned Haf (Swyddog Ymgyrchoedd) a Siân Howys (Swyddog Polisi Deddf Iaith). Bydd Mudiadau Dathlu'r Gymraeg, gr?p ymbarel o 17 o fudiadau cenedlaethol hefyd yn rhoi tystiolaeth yn y cyfarfod.