Mewn llythyr agored at arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin (Cyng Emlyn Dole) ac at gadeirydd (Cyng Mair Stephens) ac is-gadeirydd (Cyng Cefin Campbell) y Panel Ymgynghorol ar y Gymraeg, mae Cymdeithas yr Iaith wedi holi a fydd polisi iaith newydd gan y Cyngor Sir erbyn diwedd y mis.
Cymerodd nifer o gynghorwyr ran flaenllaw mewn Parêd Gŵyl Dewi i ddathlu gŵyl ein nawddsant ar ddechrau'r mis, ond mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gyhoeddi erbyn diwedd y mis (Mawrth 30ain) bolisi ac amserlen o ran cyflawni llawer mwy o'i waith ei hun yn Gymraeg, ac mae'r Gymdeithas yn ceisio sicrwydd fod hwn yn dal yn fwriad.
Yn y llythyr agored, dywed Sioned Elin, ar ran rhanbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith:
"Daliwn ar gyfle Dydd Gŵyl Dewi i'ch atgoffa fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cytuno i gyhoeddi erbyn diwedd y mis hwn (30/3/16) gynllun ac amserlen o ran symud tuag at gyflawni llawer o
waith mewnol y Cyngor ei hun yn Gymraeg. Fel hyn wrth gwrs fe fydd y Cyngor yn gosod esiampl dda i bob corff arall.
Mae aelodau pob plaid yn cydnabod fod pobl Sir Gâr wedi agor pennod newydd yn hanes Cymru 50mlynedd yn ôl i eleni yn isetholiad Caerfyrddin. Credwn y gall Sir Gar osod esiampl gadarn yn awr wrth weithredu'r Safonau Iaith, a thrwy hyn ddatgan fod y Gymraeg yn etifeddiaeth i bob
un ohonom.
Hoffem gael cadarnhad eich bod yn dal i fwriadu cyhoeddi polisi ac amserlen ystyrlon erbyn Mawrth 30ain."