Deddf Iaith - Cyhoeddiad Pwysig!

Am hanner awr wedi deg fore dydd Iau yr 22ain o Fedi, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal cynhadledd i’r wasg ar risiau Pencadlys Llywodraeth y Cynulliad ym Mharc Cathays, Caerdydd.

Yn y gynhadledd bydd y Gymdeithas yn datgelu enwau’r cannoedd o Gymry amlwg sydd wedi datgan eu cefnogaeth i’r alwad am Ddeddf Iaith Newydd.Yn ystod y gynhadledd fe fydd cyhoeddiad pwysig ynghylch camau nesaf yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith newydd yn cael ei wneud. Yn ogystal, ceir gwybodaeth ynglŷn a’r Rali Genedlaethol, sydd hefyd yn cael ei gynnal tu allan i Bencadlys Llywodraeth y Cynulliad ym Mharc Cathays Caerdydd ar Hydref 1af.Stori oddi ar wefan BBC Cymru'r BydPwyswch yma i lawrlwytho copi PDF o'r hysbyseb lliw llawn a fydd yn ymddangos yn y wasg Gymreig dros yr wythnos nesaf (wedi ei noddi gan gefnogwyr).01-10-05-rali-din-bach.jpg