Dedfrydu 2 ymgyrchydd iaith - Achos llys cyntaf dros S4C ers 30 mlynedd

achos-jamie-heledd-bach2.jpgMae dau ymgyrchydd iaith wedi eu dedfrydu heddiw yn yr achos llys cyntaf yn ymwneud ag S4C ers bron i ddeng mlynedd ar hugain. Daeth torf o dros gant o bobl draw i Lys Ynadon Caerdydd i ddatgan eu cefnogaeth. Cafodd Jamie Bevan orchymyn i dalu iawndal o £1,020, costau o £120 a gorchymyn 'curfew' am 28 niwrnod. Cafodd Heledd Melangell Williams orchymyn i dalu iawndal o £600 a rhyddhad amodol am 12 mis.Croesawodd y Gymdeithas y ffaith i'r Ynad ddatgan nad oedd Llywodraeth Prydain yn adlewyrchu llais democrataidd pobl Cymru ynglyn â S4C ac iddo ddweud "Dyw amddiffyn democratiaeth ddim byd i wneud â'r gyfraith."Torrodd y ddau ddiffynnydd i mewn i swyddfa Jonathan Evans, Aelod Seneddol Ceidwadol Gogledd Caerdydd, a pheintio slogan ar y wal fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i sicrhau dyfodol S4C.Yn siarad o flaen y llys, fe ddywedodd Jamie Bevan, 35 o Ferthyr Tudful:"Mi wnes i dorri i mewn i swyddfa Jonathan Evans AS ... er mwyn tynnu sylw at yr annhegwch a diffyg parch y mae ei blaid yn dangos nid yn unig i S4C ond at y genedl Gymreig yn gyffredinol. Roedd y weithred yn rhan o ymgyrch ehangach i sicrhau dyfodol i'n hunig sianel Gymraeg.""Cafodd S4C ei sefydlu ar ôl ymgyrch hir iawn pan wrthododd miloedd o bobol i dalu eu trwydded teledu, pan aeth nifer o bobol i'r carchar am weithredu mewn modd tebyg i'r hyn yr ydym ni yn sefyll yma heddiw. Talon ni'n ddrud yr adeg honno ac mae'n gwbl annheg yr ydym nawr yn cael ein disgwyl i dalu am yr eildro.""Yr adeg hynny gwrandawodd y llywodraeth ar ddymuniadau'r bobol a sefydlwyd S4C. Roddwyd ei fformiwla ariannu mewn statud er mwyn ei hamddiffyn rhag ymosodiadau gan wleidyddion y dyfodol. Mae'r gwleidyddion hynny, y blaid Dorïaidd yn Llundain ... mor hy ag i feddwl allent newid y gyfraith honno fel gallent dorri yn sylweddol ar S4C a threfnu ei fod yn cael ei thraflyncu gan y BBC."

"Ers cyhoeddi'r cynlluniau mae llais pobol Cymru wedi bod yn unedig yn ei wrthwynebiad. .... y llais mae'r Torïaid wedi, a dal yn, anwybyddu, yw: Arweinwyr y prif bleidiau yng Nghymru; degau o Undebau a mudiadau iaith; y Pwyllgor Materion Cymreig; degau o filoedd o bobol sydd wedi arwyddo deisebau, mynychu ralïau a chyfarfodydd; ein harweinwyr crefyddol megis yr archesgob Barry Morgan. Mae hyd yn oed Pwyllgor Diwylliant T?'r Cyffredin wedi beirniadu'r cynlluniau yn hallt.""Yn wyneb y fath haerllugrwydd dwi'n dweud wrthych chi nad oedd unrhyw dewis arall gyda ni ar wahân i weithredu yn y modd a wnaethom. Basa awgrymu na ddylwn ni wedi ymgymryd â'r unig ddull oedd ar ôl gennym yn awgrymu y dylwn eistedd nôl a gwneud dim, eistedd nôl a derbyn tranc yr orsaf ac felly'r Iaith Gymraeg. Dwedaf wrthoch chi heddiw, na fyddaf i'n eistedd nôl a gwneud dim."achos-jamie-heledd-bach.jpgYchwanegodd Heledd Melangell Williams, 21, o Nant Peris:"Nid wyf yn derbyn rhesymeg y llywodraeth dros y cwtogi eithafol. Maent yn bwriadu cwtogi cyllid a dderbynia S4C gan yr adran DCMS y llywodraeth o 94% ac i'r BBC ariannu ychydig o'r rhelyw."Ariangarwch y bancwyr achosodd y crisis economaidd a rydd esgus i'r ceidwadwyr gwtogi ar gyllid S4C. Er hyn mae eu bonws dal rhedeg i'r biliynau, nhw achosodd y broblem a nhw sydd efo'r pres i dalu amdano. Ni fyddwn yn talu am gamgymeriadau'r bancwyr drwy dderbyn y toriadau yma. Mae'r crisis economaidd yn dangos i ni nad yw cyfalafiaeth yn system gynaliadwy na chyfiawn."Mae Cymdeithas yr Iaith yn pryderu fod cydgynllun llywodraeth Prydain a'r BBC i ariannu S4C drwy'r BBC a thorri cyllideb y sianel heb unrhyw sicrwydd o arian tu hwnt i 2015 yn bygwth dyfodol ac annibyniaeth y sianel. Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Bethan Williams:"Dydy'r llywodraeth yn Llundain, dydy'r BBC yn Llundain ddim yn deall - rhywbeth amherthnasol a phell o'u dirnadaeth nhw yw'n sianel ni. Maen nhw benderfynol o geisio anwybyddu'n llais ni yma yng Nghymru, ond trwy weithredoedd fel un Jamie Bevan a Heledd Melangell, a thrwy barhau i ymgyrchu mae'n fwyfwy anodd iddynt droi clust fyddar."Mae hon yn sianel i bawb, yn etifeddiaeth i bob un drwy Gymru - yn bobl sy'n gwylio bob dydd neu ond yn achlysurol, yn blant, yn oedolion, dysgwyr a'r di-Gymraeg. Fe enillwyd brwydr i sefydlu'r sianel rai degawdau yn ôl a nawr mae dyletswydd arnon ni i gyd i ymgyrchu - drwy ysgrifennu llythyr, wrthod talu'r drwydded deledu neu wneud beth bynnag y gallwn ni."S4C: Dau brotestiwr yn euog - BBC Cymru - 07/07/2011Dedfrydu ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith - Golwg360 - 07/07/2011Two Welsh language campaigners sentenced over breaking into Cardiff MP's office - walesonline.co.uk - 07/07/2011Language protesters sentenced for Tory office break-in - BBC Wales - 08/07/2011