A fydd Canlyniadau Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn Deffro’r Llywodraeth?

Yn dilyn cyhoeddi Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, sy’n dangos cwymp pellach yn nifer y siaradwyr Cymraeg mae angen i’r Llywodraeth ddeffro a gweithredu yn y cyfnod cyn yr etholiad. 

“Mae canlyniadau Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn hynod siomedig gan eu bod yn dangos cwymp parhaus yn nifer y siaradwyr Cymraeg.
“Yn y gorffennol mae Llywodraeth Cymru wedi cyfeirio at arolygon blynyddol er mwyn osgoi beirniadaeth am ganlyniadau trychinebus Cyfrifiad 2021. Dylai’r canlyniadau yma ddeffro’r Llywodraeth i ddefnyddio’r naw mis sy’n weddill o’r tymor Seneddol i weithredu, a rhoi diwedd ar y llusgo traed rydyn ni wedi’i weld dros y blynyddoedd diwethaf.
“Ddeng mis ar ôl cyhoeddi adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, wnaeth ddwy flynedd o waith ymchwil a dadansoddi manwl, doedd ymateb y Llywodraeth iddo yn gwneud dim mwy na chadarnhau y bydd cynlluniau presennol yn parhau a dweud bod angen trafod ac ymchwil pellach. Mae angen mwy na hynny i fynd i’r afael â’r argyfwng tai yn ein cymunedau Cymraeg traddodiadol.

“Roedd Deddf y Gymraeg ac Addysg – a gafodd gydsyniad brenhinol ddoe – yn llawer rhy wan ac yn brin o dargedau statudol er mwyn gyrru newid a chyflawni nod y Llywodraeth ei hunan o roi’r Gymraeg i bob plentyn drwy’r system addysg. Yn hytrach na sicrhau Ddeddf fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn wrth ei chyflwyno, bydd rhaid i'r Llywodraeth nesaf ddod yn ôl ati ac ychwanegu targed statudol ar gyfer rhoi addysg Gymraeg i bob plentyn.
"Rydyn ni hefyd yn annog y Llywodraeth i wrthdroi’r penderfyniad diweddar i ollwng ei haddewid i sefydlu Corff Cynghori ar Ddarlledu a Chyfathrebu i Gymru, er mwyn dechrau’r broses o roi grymoedd darlledu yn nwylo pobl Cymru.”