Mae ymgyrchwyr wedi cyflwyno deiseb, wedi ei llofnodi gan dros 750 o bobl, yn gwrthwynebu penderfyniad Llywodraeth Cymru i eithrio gwasanaethau gofal sylfaenol, megis meddygfeydd, o unrhyw ddyletswydd i ddarparu gwasanaeth Cymraeg.
Yn ôl rheoliadau drafft y Llywodraeth ni fyddai hawliau i'r Gymraeg gan y cyhoedd wrth ddelio â'u meddygfa a gwasanaethau gofal sylfaenol eraill. Yn 2014, ysgrifennodd Comisiynydd y Gymraeg ei hadroddiad cyntaf am ddiffyg darpariaeth Gymraeg mewn meddygfeydd a gwasanaethau gofal sylfaenol eraill. Dywedodd yn yr adroddiad: "Rwyf wedi fy mrawychu o glywed rhai profiadau dirdynnol siaradwyr Cymraeg ac aelodau o'u teuluoedd o fethu â chael gwasanaeth iechyd addas i'w hanghenion." Hefyd, gwnaeth y Comisiynydd argymhelliad penodol i Lywodraeth Cymru gan ddatgan: "Gan mai gofal sylfaenol yw cyswllt cyntaf mwyafrif aelodau'r cyhoedd gyda'r gwasanaeth iechyd, ... [mae'n] hanfodol sicrhau cysondeb ymddygiad ieithyddol ar draws y gwasanaeth iechyd ..."
Wedi i swyddogion Cymdeithas yr Iaith gyflwyno'r ddeiseb i Mike Hedges AC, Cadeirydd Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad, dywedodd Manon Elin, Cadeirydd grŵp hawl Cymdeithas yr Iaith:
"Mae pobl yn defnyddio'r gwasanaeth iechyd pan maent ar eu mwyaf bregus, felly mae'n hanfodol bwysig eu bod yn medru cyfathrebu yn yr iaith maent yn teimlo'n fwyaf cyfforddus yn ei siarad. Gobeithio y bydd y ddeiseb hon yn golygu y bydd Aelodau Cynulliad yn sicrhau bod gan bobl yr hawl i'r gwasanaethau hanfodol bwysig hyn yn Gymraeg.
"Fel y mae'r rheoliadau'n sefyll, fyddai ddim hawliau gan y cyhoedd wrth ymwneud â'u meddygfa leol, sef y prif gyswllt gyda'r gwasanaeth iechyd, a'r unig gyswllt, yn y rhan fwyaf o achosion. Mae cwynion di-ri am ddiffyg gwasanaethau Cymraeg elfennol ym maes gofal sylfaenol, o ddiffyg gwasanaeth gofal yn Gymraeg i arwyddion a gwefannau uniaith Saesneg."
"Mae hwn yn fater sy'n effeithio ar filoedd ar filoedd o bobl, yn eu plith y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas. Byddwn yn ystyried pob opsiwn sydd gyda ni felly, er mwyn sicrhau bod gan bobl hawliau cadarn a chyflawn yn y maes hollbwysig hwn."