Diffyg prentisiaethau cyfrwng Cymraeg yn 'bryder mawr'

Dim ond pump y cant o'r prentisiaethau cafodd eu cynnal ar gyfer bobl ifanc dros y pedair blynedd diwethaf sydd wedi bod ag elfen o ddysgu ac asesu yn Gymraeg, yn ôl ffigyrau a ryddhawyd i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth gan y mudiad iaith, datgelodd Llywodraeth Cymru bod 179,515 allan o gyfanswm o 189,695 prentisiaeth a gynhaliwyd yng Nghymru ers 2011 wedi eu cynnal drwy gyfrwng y Saesneg, sef naw deg pump y cant. Yn ôl yr ystadegau, am gyfnod o dair blynedd rhwng 2011 a 2014, roedd 96% o'r prentisiaethau yn Saesneg. Buodd cynnydd bach iawn yn y ganran o gyrsiau sy'n cynnwys elfen Gymraeg y llynedd, gyda 95% yn cael eu cynnal yn Saesneg.

Mae'r holl bleidiau a gafodd eu hethol i'r Cynulliad yn yr etholiad y mis yma wedi addo y bydd cynnydd sylweddol yn nifer y prentisiaethau; ac fe addawodd y blaid fwyaf, y Blaid Lafur, gynyddu'r nifer i gan mil ar gyfer pob oedran. Mae ymgyrchwyr iaith yn dweud y bydden nhw'n annog y Llywodraeth nesaf i fynd i'r afael â chynyddu'n sylweddol darpariaeth hyfforddiant drwy'r Gymraeg.

Wrth ymateb i’r ystadegau, dywedodd Toni Schiavone, Cadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Mae'r diffyg darpariaeth yn destun pryder mawr. Mae'r Llywodraeth yn buddsoddi llawer o arian yn yr hyfforddiant, ac mae hynny'n gwbl gywir, ond mae'n rhaid hyfforddi ein pobl ifanc i allu weithio'n Gymraeg. Wedi'r cwbl, mae cynyddu defnydd y Gymraeg yn y gweithle yn allweddol os yw hi i ffynnu dros y blynyddoedd i ddod.

"Gyda phob plaid yn y Cynulliad yn addo cynnydd sylweddol yn nifer y prentisiaethau yng Nghymru, mae 'na gyfle nawr i drawsnewid y sefyllfa a rhoi'r Gymraeg wrth galon y cynllun. Rwy'n ffyddiog bod awydd ymysg nifer o'r pleidiau gwleidyddol i gyflawni hynny; a byddwn ni'n ysgrifennu at arweinwyr y pleidiau yn y Cynulliad yn y gobaith y byddan nhw'n mynd ati i brif-ffrydio'r Gymraeg ym mhob maes gwariant."

"Os nad yw'r darparwyr yn gallu cyflawni gofynion sylfaenol o ran hyfforddiant Cymraeg, dylai'r tendrau fynd at gwmnïau eraill. Dyna'r gwir plaen amdani. Yn y byd sydd ohoni, mae sefyllfa lle mae gormod o bobl yn derbyn yn ddi-gwestiwn bod y byd gwaith bron â bod yn gyfan gwbl Saesneg. Ac er ei bod yn ymddangos y buodd cynnydd bach iawn dros y blynyddoedd diwethaf yn nifer y prentisiaethau oedd yn derbyn elfen o'u hyfforddiant yn Gymraeg, mae diffiniad y Llywodraeth o beth sy'n gyfystyr â 'gweithgaredd' Cymraeg mor wan, mae cwestiynau mawr am werth yr ystadegau o ran mesur faint sy'n cael ei hyfforddi'n Gymraeg."

[Cliciwch yma am yr ystadegau llawn]