Fe fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn picedi tu fas i Superdrug yng Nghaerfyrddin heddiw 26/11 am 4pm. Byddwn yn dosbarthu taflenni gyda'r geiriau: "Superdrug - Cwmni Harddwch ac iechyd gyda agwedd Salw ac afiach at yr iaith Gymraeg".Fe fydd aelodau o'r Gymdeithas yn picedi tu fas i siop Boots yn Llandysul dydd Llun 30ain o Dachwedd am 1pm gan ddosbarthu cardiau 'Mantais' Boots amgen am ddim tu allan i'r siop. Yn troi slogan Boots ar ei phen, bydd yr ysgrifen ar y cardiau yn darllen "there are no points whatsoever for using Welsh".Fe fydd aelodau o gell Pantycelyn Cymdeithas yr Iaith yn Aberystwyth yn ymprydio dydd iau y 3ydd o Ragfyr mewn cefnogaeth i Osian Jones.Fe fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn gosod stondin ar stryd fawr Aberystwyth dydd Gwener y 4ydd o Ragfyr gan ddosbarthu taflenni am safiad Osian a gofyn i drigolion Aberystwyth i lofnodi llythyr o gefnogaeth i Osian a'i ddanfon ato yn y carchar.Piced Superdrug a Boots. 1pm, Dydd Llun 7fed o Rhagfyr, Heol y Frenhines, CaerdyddFfair Lyfrau Nadolig - Llyfrau ail law, DJs a Ffilm am yr ymgyrchydd Osian Jones, 12pm - 3pm, Dydd Sul, 20fed o Rhagfyr, Gwdih?, Caerdydd (am ddim)Cyfarfod Cell Caerdydd, 7.30pm-8.30pm, Nos Fercher, 6ed o Ionawr, Fuwch Goch, CaerdyddYn ogystal a'r uchod bydd nifer o aelodau ar draws Cymru yn sticeri siopau a busnesau preifat dros yr wythnosau nesaf - sticeri gyda'r ysgrifen 'Ble mae'r Cymraeg' ac eraill gyda llun o Osian Jones yn dweud 'Carchar am fynnu hawliau'Mae'r digwyddiadau wedi eu trefnu mewn cefnogaeth i Osian Jones a gafodd ei ddedfrydu i 28 diwrnod yn y carchar ddoe (25/11/09) am weithredu yn erbyn siopau Boots, Superdrug, Matalan a PC World yng ngogledd Cymru ym mis Ebrill 2008, oherwydd eu diffyg darpariaeth Cymraeg.