Mae dileu addysg Gymraeg ail iaith yn un ffordd hanfodol o sicrhau bod plant yn cael mynediad teg at yr iaith ac o ymateb i ganlyniadau’r Cyfrifiad, yn ôl papur polisi a gyflwynwyd i adolygiad Llywodraeth gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Mae’r mudiad yn galw am weithredu cyfres o fesurau i ddisodli’r system addysg ail iaith bresennol gan gynnwys: cyflwyno lleiafswm o draean y cwricwlwm trwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob ysgol; newidiadau i hyfforddiant athrawon er mwyn sicrhau bod pob athro newydd gymhwyso yn gallu cyflawni eu gwaith trwy’r Gymraeg; ac ymestyn cynlluniau a defnyddir yng Ngwynedd ar gyfer hwyrddyfodiaid i addysg yng Nghymru i weddill y wlad.
Dywed tystiolaeth y grŵp pwyso i adolygiad y Llywodraeth ar addysg Gymraeg ail iaith, “... mai methiant addysgol yw amddifadu unrhyw un o'r sgil hanfodol o fedru cyfathrebu a thrafod ei waith yn Gymraeg. Ni ddylid gosod unrhyw rai dan anfantais yn y Gymru gyfoes, felly galwn am lunio amserlen i sicrhau fod pawb yn ennill y sgil o rugledd yn y Gymraeg.
“Dylid datgan yn syth fod bwriad i derfynu "Cymraeg ail iaith" a sicrhau’n hytrach fod symud yn syth tuag at drefn lle bydd pob disgybl yn derbyn cyfran o'i addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal ag astudio’r Gymraeg fel pwnc, fel bod ganddo'r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg.”
Dengys ystadegau’r Llywodraeth mai canran y disgyblion sy’n cael eu hasesu mewn Cymraeg iaith gyntaf ym Mlwyddyn 9 yw 16.8%. Ychwanegodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
“Rydym yn credu bod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru - mae’n rhan o etifeddiaeth pawb o bob cefndir. Mae’n annheg mai dim ond lleiafrif o bobl ifanc sy’n cael y cyfle i addysg cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd, a hynny trwy hap a damwain daearyddol a dewis eu rhieni. Dylem anelu at sicrhau bod pob plantain yn rhugl ac yn cael byw yn Gymraeg, felly mae’r term “ail-iaith” yn anaddas erbyn hyn. Ddylai’r system ddim amddifadu pobl ifanc o’u hawl i fyw yn Gymraeg fel hyn.
“Rydan ni wedi croesawu penderfyniad y Gweinidog Addysg blaenorol i gynnal adolygiad - mae’n dangos ei fod yn cydnabod diffygion y system “Cymraeg ail iaith” bresennol. Does dim dwywaith amdani, mae ‘Cymraeg ail iaith’ yn methu, ac mae adolygiad y Llywodraeth yn gyfle felly i gychwyn ar chwyldroad llwyr o’r gyfundrefn addysg yng Nghymru. Gyda newidiadau dewr a sylfaenol, gall y system addysg hefyd wneud cyfraniad mwy i wrth-droi’r gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg a welwyd yn y Cyfrifiad diwethaf.”
Cyflwynir rhai o’r polisïau yn y ddogfen i’r rhai sy’n mynd i Gynhadledd Fawr Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth ar Orffennaf 4ydd gan ei fod yn rhan o ‘Faniffesto Byw’ Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.