Gyda chyhoeddiad hir-ddisgwyliedig Papur Gwyn ar Dai Digonol, Rhenti teg a Fforddiadwyedd Llywodraeth Cymru heddiw (dydd Iau, 24 Hydref), daeth cadarnhad nad oes bwriad i gorffori’r hawl i dai digonol yng nghyfraith ddomestig Cymru.
Er bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod yn eu datganiad ysgrifenedig bod yr “egwyddor bod gan bawb hawl i gartref digonol yn un yr ydym yn ei chefnogi'n llwyr”, penderfynwyd yn erbyn deddfu’r hawl i dai digonol gan y “byddai angen cryn dipyn o adnoddau i wneud deddfwriaeth o'r fath ac y gallai hyn arwain at dynnu'r ffocws oddi ar y dasg graidd o ddarparu mwy o dai digonol a chynyddu capasiti yn y sector tai.”
Wrth ymateb, dywedodd Jeff Smith, cadeirydd Grŵp Cymunedau Cymdeithas yr Iaith:
“Roedd cyfle trwy’r Papur Gwyn yma i drawsnewid y ffordd rydym yn gweld tai yng Nghymru, a mynd i’r afael o ddifrif gyda’r argyfwng tai trwy sefydlu’r hawl gyfreithiol i dai digonol. Mae ei fethiant i ddod yn agos at hynny’n hynod siomedig.
“Ers dros ddeugain mlynedd mae dyfodol ein cymunedau wedi cael ei adael i fympwyon y farchnad dai agored, a chanlyniad y drefn hon yw argyfwng tai sy’n gyrru teuluoedd a phobl ifanc o’u cymunedau, a thros 90,000 o aelwydydd ar restrau aros tai cymdeithasol. Dydy uchelgais y Papur Gwyn ddim yn cyfateb o gwbl i faint yr argyfwng.
“Nid ymdrin â symptomau unigol yr argyfwng tai fan hyn a fan draw fel sydd yn y Papur Gwyn yw’r ateb, ond mynd at wraidd yr argyfwng. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn galw am ‘Ddeddf Eiddo - Dim Llai’ ers misoedd, a dyna fydd y neges yn ystod y cyfnod ymgynghori. Galwn ar y Llywodraeth i ailystyried eu cynigion a chyflwyno deddfwriaeth fyddai’n sicrhau bod tai yn cael eu trin fel cartref yn hytrach nag ased i wneud elw ohono, ac yn gwneud yr hawl i gartref yn un statudol.”
Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd wedi beirniadu’r oedi wrth lunio’r Papur Gwyn, a’r diffyg ymrwymiad i gyflwyno Bil ar ei sail yn nhymor y Senedd hon. Ychwanegodd Jeff Smith:
“Rydym wedi gweld gohirio cyson dros y tair blynedd diwethaf, o Bapur Gwyrdd ymgynghorol i Bapur Gwyn ymgynghorol heddiw ar yr hyn y gallai gael ei gyflwyno yn nhymor nesaf y Senedd yn 2026. Beth mae pobl i fod i'w wneud yn y cyfamser, byw mewn carafanau?”