Dim cefnogaeth i ddiddymu Comisiynydd y Gymraeg – medd Llywodraeth Cymru

'Barn yn rhanedig' medd y Llywodraeth wedi iddynt anwybyddu dros hanner y gwrthwynebwyr 

Nid yw'r mwyafrif yn ffafrio diddymu Comisiynydd y Gymraeg, yn ôl ymatebion i ymgynghoriad y Llywodraeth a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mercher, 24ain Ionawr), hyd yn oed wedi i swyddogion anwybyddu dros hanner yr ymatebion oedd yn gwrthwynebu'r cynnig.  

Mae dadansoddiad y Llywodraeth o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar eu Bil arfaethedig yn datgelu bod 56% o'r ymatebwyr naill ai'n anghytuno neu'n ansicr am gynnig i ddisodli Comisiynydd y Gymraeg gyda chorff arall. Fodd bynnag, penderfynodd y Llywodraeth ddiystyru 278 o'r ymatebion ar y sail eu bod yn rhan o 'ymgyrch'. Wrth ystyried yr holl ymatebion gan gynnwys ymatebion cefnogwyr y Gymdeithas, mae ymgyrchwyr yn honni bod dros 70% o'r ymatebwyr yn gwrthwynebu prif gynnig papur gwyn y Llywodraeth a gyhoeddwyd dros yr haf. 

Bwriad y Llywodraeth yn ôl y papur gwyn oedd: diddymu Comisiynydd y Gymraeg ac ail-sefydlu corff tebyg i'r hen Fwrdd Iaith a ddiddymwyd yn 2012; dileu'r hawl i unigolion gwyno'n syth wrth Gomisiynydd y Gymraeg am ddiffyg gwasanaethau Cymraeg; peidio ymestyn hawliau iaith i weddill y sector preifat. 

Mewn ymateb i'r newyddion, dywed Osian Rhys, Is-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith: 

"Er gwaethaf holl ymdrechion y Llywodraeth i ffugio'r ystadegau, mae'r ymatebion sydd wedi'u cyhoeddi yn cadarnhau nad yw'r mwyafrif yn cefnogi'r cynigion y papur gwyn, yn enwedig y cynnig i ddiddymu'r Comisiynydd. Rydyn ni wedi bod yn galw am roi'r Bil yn y bin a dechrau eto, ac mae'n amlwg o'r ymatebion yma bod pobl Cymru'n cytuno gyda ni. Mae cynlluniau'r Llywodraeth yn llanast. Does ganddyn nhw ddim mandad gan y cyhoedd i wneud hyn, ac mi wnawn ni frwydro yn erbyn cynlluniau i wanhau hawliau i'r Gymraeg bob cam o'r ffordd." 

"Mae'r Gweinidog yn dweud celwydd wrth geisio honni bod cefnogaeth, pan nad yw dadansoddiad gwrthrychol yn cefnogi hynny. Er gwaetha nifer o rybuddion gan arbenigwyr, mudiadau a nawr y rhan fwyaf o'r ymatebion i'w hymgynghoriad nhw eu hunain, mae'n ymddangos bod gan y Llywodraeth agenda i wthio ymlaen gyda chynlluniau i wanhau ein hawliau iaith a diddymu Comisiynydd y Gymraeg. Mae'n amlwg mai Bil er budd biwrocratiaid yw hwn nid Bil er budd y Gymraeg a'i defnyddwyr." 

Dywed y mudiad iaith eu bod yn bwriadu gwneud cwyn swyddogol am y penderfyniad i anwybyddu dros hanner yr ymatebion yn ogystal â gogwydd y cwestiynau, gan gyhuddo'r Llywodraeth o 'ffugio ystadegau' er mwyn bwrw ymlaen gyda'r ddeddfwriaeth. 

Ychwanegodd: 

"Mae'n anhygoel bod y Llywodraeth wedi mynd ati'n fwriadol i anwybyddu dros hanner yr ymatebion i'w hymgynghoriad. Maen nhw'n ffugio ystadegau a hynny ar draul hawliau pobl Cymru i'r Gymraeg. Mae neges y Llywodraeth yn glir – does dim ots beth mae'r cyhoedd yn ddweud, maen nhw eisiau gwanhau'r strwythurau sydd gyda ni i amddiffyn ein hawliau i'r Gymraeg, a hynny er lles eu ffrindiau mewn sefydliadau mawr a byd busnes."