Yn dilyn adroddiadau bod Llywodraeth Prydain yn bygwth y ffi drwydded deledu, mae ymgyrchwyr wedi dweud bod datganoli pwerau dros ddarlledu i Gymru yn hanfodol er mwyn amddiffyn ac ehangu darlledu cyhoeddus.
Yn ôl adroddiadau yn y Sunday Times, mae Llywodraeth Prydain yn bwriadu troi’r BBC i mewn i wasanaeth tanysgrifio. Ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf o’r arian i S4C yn dod o’r ffi drwydded.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod pwerau darlledu i Gymru yn hanfodol er mwyn cynnal democratiaeth Gymreig a’r Gymraeg. Yn ôl arolwg barn, mae llai na hanner poblogaeth Cymru yn gwybod bod y cyfrifoldeb dros iechyd wedi ei ddatganoli i’r Senedd yng Nghaerdydd.
Dywedodd Bethan Ruth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
“Mae’r Torïaid yn cynnal rhyfel ideolegol filain yn erbyn darlledu cyhoeddus, ac mae’n rhaid i ni yng Nghymru wrthsefyll hyn. Wedi’r cwbl, dyma benllanw degawdau o ddadreoleiddio darlledu a chyfathrebu ym Mhrydain sydd wedi niweidio ein democratiaeth, ein hiaith a’n cymunedau er lles busnesau mawrion. Mae’r ateb yn syml: dylai penderfyniadau dros ddarlledu yng Nghymru gael eu gwneud gan bobl Cymru.
“Er enghraifft, sut yn y byd all Aelod Seneddol Hertsmere fod yn gymwys i benderfynu ar dynged darlledu Cymraeg? Mae’n hurt - sut mae fe i fod i ddeall ein sefyllfa ni?
Yn ôl arolwg barn gan YouGov, mae 65% o bobl Cymru yn ffafrio datganoli pwerau darlledu i'r Senedd yng Nghymru. Ychwanegodd:
“Yn yr hinsawdd bresennol, mae datganoli pwerau darlledu a chyfathrebu yn hanfodol er mwyn cryfhau ac amddiffyn darlledu cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r frwydr hon yn frwydr dros ddyfodol ein hiaith a’n cymunedau a dros ddemocratiaeth. Mae democratiaeth yn amhosibl os na fydd rheolaeth dros ddarlledu yng Nghymru yn symud o Lundain i Gaerdydd a’r cyfryngau yn adlewyrchu ein gwerthoedd a’n diwylliant ni a’n bod ni’n gweld y byd drwy ffenestr Gymreig. Mae datganoli’r system ddarlledu'r un mor bwysig â datganoli grym gwleidyddol.
“Rydym yn falch i weld mwyfwy o gefnogaeth o du Llywodraeth Cymru ac eraill i’r ymgyrch. Rydyn ni wedi cael digon o’r Llywodraeth yn Llundain nid yn unig yn gwneud toriadau i’r cyfryngau Cymraeg, ond hefyd yn teyrnasu dros system sy’n rhoi cyn lleied o sylw i faterion Cymreig a chyfryngau nad ydynt yn adlewyrchu bywydau pobl yng Nghymru.”
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi papur polisi ynghylch sut y dylid mynd ati i ddatganoli darlledu a sut y byddai ei ariannu. Yn ôl y ddogfen honno, gellid denu llawer mwy o gyllid i ariannu darlledu yng Nghymru wrth nid yn unig ddatganoli’r ffi drwydded a threth ond hefyd trwy osod ardoll ar gwmnïau mawr sydd yn gwneud arian o weithredu yng Nghymru – cwmnïau fel Netflix, YouTube a Facebook. Byddai modd ariannu mentrau iaith digidol ynghyd â gorsafoedd radio a sianeli teledu ychwanegol wedi i’r pwerau gael eu datganoli, yn ôl y mudiad.