Cafodd Steffan Cravos, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gyfanswm dirwyon a chostau o £1,025 gan Lys Ynadon Caernarfon heddiw am beintio sloganau yn galw am Ddeddf Iaith ar waliau siop Morison ym Mangor yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Roedd wedi pledio'n ddieuog.
Dywedodd Steffan, sy’n dod o Gaerdydd iddo gyflawni’r weithred fel ymateb i sylwadau sarhaus Rhodri Morgan ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol pan ddywedodd fod y Gymraeg yn ‘Boring, Boring, Boring.’Mae’r achos hwn yn digwydd yng nghanol cyfnod prysur o weithredu uniongyrchol dros Ddeddf Iaith gan aelodau’r Gymdeithas. Dros y mis diwethaf mae deg aelod wedi cael eu harestio am baentio sloganau yn galw am Ddedd Iaith ar waliau adeilad Llywodraeth y Cynulliad ym Mharc Cathays, Caerdydd.Yn dilyn yr achos Llys aeth aelodau’r Gymdeithas draw at adeilad Llywodraeth y Cynulliad yng Nghaernarfon i gyflwyno’r neges dros Ddeddf Iaith drwy ludio sticeri yn galw am Ddeddf Iaith ar yr adeilad.Stori BBC Cymru'r BydStori oddi ar wefan y Daily PostStori arall oddi ar wefan y Daily Post