Dirwy drom i aelod arall o'r Gymdeithas

Gwyn Sion Ifan - Awen MeirionlYmddangosodd y degfed aelod on Gymdeithas yr Iaith Gymraeg o fewn cyfnod o lai na dau fis ger bron Llys Ynadon Caerdydd heddiw am achosi difrod troseddol i adeilad Llywodraeth Cymru fel rhan o’r ymgyrch dros Ddeddf Iaith. Derbyniodd Gwyn Sion Ifan, rheolwr Awen Meirion, Y Bala ddirwy o £450 am beintio’r slogan ‘Deddf Iaith’ ar y wal.

Dywedodd Gwyn Sion Ifan:"Yr ydym wedi gorfod gweithredu fel hyn oherwydd gwrthodiad llywodraeth y Cynulliad i drafod yr angen am Ddeddf Iaith gyda ni. yr ydm fel Cymdeithas wedi galw cadoediad ac ymatal rhag gweithredu yn erbyn llywodraeth y Cynulliad ers dechrau’r flwyddyn er mwyn ei gwneud hi’n rhwyddach i Alun Pugh a’i lywodraeth dderbyn gwahoddiad i siarad. Ond nid yw hyn wedi gwneud gwahaniaeth i’w hagwedd hyd yn hyn. Bydd senedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyfarfod ar y pedwerydd o Chwefror i drafod os yw’n werth parhau gyda’r cadoediad neu beidio.""Mae’r mis diwethaf wedi bod yn bwysig i’r ymgyrch gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn dod allan o blaid Deddf Iaith a nifer o Gymry amlwg fel John Elfed Jones (Cadeirydd cyntaf Bwrdd yr Iaith) yn datgan eu cefnogaeth i’r ymgyrch dros Ddeddf.""Mae’n amlwg fod consensws bellach yng Nghymru ar fater Deddf Iaith a bod llywodraeth y Cynulliad wedi ei hynysu. Mae cyfrifoldeb moesol felly ar Alun Pugh a’r llywodraeth i ymateb i’r consensws hwn drwy siarad gyda Cymdeithas yr Iaith ac eraill."OL-NODYNCafodd Gwyn Sion Ifan brofiad personol o ddiffygion y Ddeddf Iaith bresennol pan dorrwyd y llinnell ffôn i Awen Meirion (siop lyfrau y mae ef yn rheolwr arni yn y ôBala) am nad oedd wedi talu y bil ffôn uniaith Saesneg yr oedd wedi ei dderbyn er gwneud sawl cais dros y misoedd diwethaf am un Cymraeg.Bu heb wasanaeth ffôn yn y siop drwy’r diwrnod gwaith ddoe, ac nid oedd posib mynd ar y we na defnyddio cardiau credyd. Adferwyd y gwasanaeth tua 5 o’r gloch y prynhawn ar ôl cwyno parhaus wrth swyddogion BT a chafwyd addewid o fil Cymraeg yn y dyfodol.