Disgwyl un cymhwyster Cymraeg i bob plentyn yn dilyn cyhoeddiad Cymwysterau Cymru

Rydym yn croesawu cyhoeddiad Cymwysterau Cymru heddiw am ddileu Cymraeg ail iaith, ac yn disgwyl bellach i’r corff greu un cymhwyster Cymraeg i bob plentyn.

Wrth ymateb i’r newyddion dywedodd Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:

“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn cadarnhau y bydd un cymhwyster Saesneg ac un cymhwyster Mathemateg i bob plentyn yng Nghymru. Diolch i waith ymgyrchu diflino nifer fawr o bobl, mae’n edrych yn debygol iawn bellach y bydd un cymhwyster Cymraeg i bawb hefyd. Wedi iddyn nhw gyhoeddi y bydd un cymhwyster i’r Saesneg a Mathemateg, ni fyddai modd iddyn nhw gyfiawnhau cadw rhywbeth eilradd i’r Gymraeg.

“Wedi’r cwbl, un cymhwyster Cymraeg yw’r unig opsiwn sy’n cyd-fynd â pholisi Llywodraeth Cymru o ddileu Cymraeg ail iaith a sefydlu un continwwm dysgu Cymraeg. Yn bwysicach byth, dymuniad pobl Cymru yw sicrhau bod pob plentyn yn dod yn rhugl yn Gymraeg. Ni ddylai’r Gymraeg fod yn eilradd i ddim un plentyn, dylai rhuglder yn y Gymraeg fod yn rhodd ‘n holl blant.”

Gellir darllen papur y Gymdeithas ar Un Continwwm o Ddysgu'r Gymraeg yma.