“Dydy’r argyfwng tai ddim yn rhyw argyfwng naturiol anochel”: Beth Winter AS a Mabon ap Gwynfor AoS yn edrych ymlaen at rali Blaenau Ffestiniog

Mae Beth Winter AS a Mabon ap Gwynfor AoS wedi pwysleisio maint yr argyfwng sy’n wynebu cymunedau Cymraeg wrth edrych ymlaen at rali ‘Deddf Eiddo - Dim Llai’ Cymdeithas yr Iaith ym Mlaenau Ffestiniog ar 4 Mai.

Bydd y rali, sy’n digwydd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr, yn llwyfan i siaradwyr a mynychwyr fynnu bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno a phasio ‘Deddf Eiddo - Dim Llai’ cyn diwedd tymor y Senedd bresennol. Amcan deddf o’r fath fyddai sicrhau bod tai yn cael eu trin yn bennaf oll fel anghenion cymunedol ac nid asedau ariannol er mwyn gwneud elw.

Dywedodd Beth Winter, Aelod Seneddol Llafur Cymru dros Gwm Cynon a fydd yn un o brif siaradwyr y rali:

“Dylai bod gan bawb yr hawl i fyw yn eu cymuned eu hunain. Dydy’r argyfwng tai ddim yn rhyw argyfwng naturiol anochel, mae’n ganlyniad degawdau o benderfyniadau gwleidyddol bwriadol - penderfyniadau sydd yn gyrru pobl o’r cymunedau y maen nhw’n eu caru.

“Dydy tai ddim yn asedau ar gyfer elw, maen nhw’n angen craidd, a dylai bod pobl yn gallu byw a gweithio yn y cymunedau lle cafon nhw eu magu.

“Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr, byddaf yn ymuno â fy nghymrodyr ym Mlaenau Ffestiniog i ymladd am Gymru sy’n rhoi anghenion pobl yn gyntaf.”

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyflwyno rhai mesurau i fynd i’r afael â rhai agweddau o’r argyfwng tai, er enghraifft galluogi awdurdodau lleol i gyflwyno premiymau treth cyngor ar ail dai.

Er hynny, dydy’r mesurau presennol ddim yn mynd yn ddigon pell nac at wraidd yr argyfwng tai yn ôl Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd:

“Mae ein cymunedau wedi dioddef degawdau o ddiboblogi a diffyg buddsoddiad oherwydd methiant y farchnad agored i sicrhau fod yna dai - cartrefi - ar gael i bobl a theuluoedd gael byw yn eu cymunedau.

“Mae gan Lywodraeth Cymru’r gallu i ymyrryd yn y farchnad rydd sydd wedi profi i fod mor niweidiol i Gymru a sicrhau fod yna nifer digonol o dai ar gyfer anghenion ein cymunedau. Yn anffodus, tan yn eithaf diweddar, mae'r Llywodraeth wedi bod yn euog o eistedd yn ôl a gadael i'r farchnad reoli ffawd Cymru. 

“Rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi dechrau cymryd camau i'r cyfeiriad iawn trwy gydweithio â ni ym Mhlaid Cymru i ganfod datrysiadau, ond mae'n rhaid gweld mwy o frys hefyd.”

Mynna Mabon ap Gwynfor AoS bod rhaid mynd ymhellach, a hynny trwy basio Deddf Eiddo:

“Y ffordd orau a mwyaf effeithiol o ddatrys yr argyfwn tai ydy trwy sicrhau fod yna fwy ‘na ddigon o dai o dan berchnogaeth gyhoeddus a chymunedol yn cael eu hadeiladu o'r safon uchaf er mwyn diwallu anghenion cymunedol. Yn y cyfamser, rhaid cael ymyrraeth er mwyn rheoli'r farchnad a gwneud yn siŵr ei fod yn gweithio o blaid ein cymunedau.

“Mae'r hawl i gartref yn hawl sylfaenol - yn hawl dynol. Felly, y cam cyntaf ydy cyflwyno Deddf i sicrhau fod gan bobl Cymru yr hawl i dŷ addas i bwrpas. Byddai Deddf o'r fath yn gorfodi’r Llywodraeth i weithredu.

“Rwy'n edrych ymlaen at y rali ym Mlaenau Ffestiniog ym mis Mai er mwyn adeiladu'r gefnogaeth i'r alwad yma a sicrhau fod y Prif Weinidog newydd yn clywed ein llais.”