Cyhoeddi Cynllun Strategol Comisiynydd y Gymraeg
07/04/2025 - 16:02
Rydyn ni'n croesawu gweledigaeth Cynllun Strategol Comisiynydd y Gymraeg o ‘Gymru lle y gall pobl fyw eu bywydau yn Gymraeg’ ond yn dweud bod rhaid rhoi mwy o bwyslais ar ddefnyddio pwerau rheoleiddio, ymestyn Safonau’r Gymraeg a chryfhau hawliau iaith os am wireddu’r nod.