Ehangu cynllun i ddiogelu enwau lleoedd Cymraeg

Lansiwyd cynllun Diogelwn yn 2021 er mwyn i berchnogion allu diogelu’r enwau Cymraeg ar eu tai, ond mae e bellach wedi ei ehangu i gynnwys enwau ar dir, a bydd y cynllun ar ei newydd wedd yn cael ei gyflwyno mewn digwyddiad ar stondin Cymdeithas yr Iaith ar faes yr Eisteddfod heddiw (dydd Llun 01/08/2022).

Yn siarad yn y digwyddiad fydd Simon Chandler, cyfreithiwr a aeth ati i lunio cymalau a dogfennau i bobl eu defnyddio wedi i'r bardd a’r awdur, Sian Northey, a oedd yn gwerthu’i thŷ, ofyn i’r byd Twitter Cymraeg fis Mehefin 2020 a oedd modd diogelu’r enw Cymraeg ar ei thŷ ar ôl y gwerthiant.

Daeth yn amlwg yn gynharach eleni bod angen ymestyn ystod y cynllun i enwau tiroedd hefyd ar ôl i’r enw Banc y Cornicyll gael ei golli oddi ar y map ordnans a'i ddisodli gan yr enw Hakuna Mattata.

Dywedodd Simon Chandler:
"Mae’r cynllun yn bodoli oherwydd bod ‘na alw amdano, ac oherwydd bod gan y Cymry draddodiad hir o hunangymorth. ‘Dyn ni i gyd yn pryderu am golli enwau Cymraeg, ac ‘dyn ni i gyd yn ysu am weld deddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru i warchod yr enwau hynny’n statudol."

Roedd Cymdeithas yr Iaith yn awyddus iddi fod mor hawdd â phosibl i unrhyw un ddiogelu’r enw ar eu cartref neu ar eu tir naill ai cyn neu wrth iddyn nhw ei werthu.  Felly, mae cymalau a dogfennau sy’n cynnwys cyfamodau safonol ar gael ar wefan y Gymdeithas i'w lawrlwytho.

Dim ond perchennog all newid yr enw ar eu tir neu ei ddiogelu trwy ddefnyddio Diogelwn, ond mae enwau twristaidd yn disodli enwau naturiol fel Carreg Edwen, Coed Llyn Celanedd, Coed Cerrig y Frân a Ffos Clogwyn y Geifr.

Ar hyn o bryd, does dim modd atal hynny ond bydd Howard Huws yn sôn yn y digwyddiad am ymgyrch Cylch yr Iaith i bwyso ar y Llywodraeth i ddeddfu i atal enwau lleoedd tirweddol rhag cael eu disodli gan enwau Saesneg, sydd ym marn Cylch yr Iaith yn:
"ymosodiad ar ran allweddol o’n hetifeddiaeth fel cenedl, ac yn tanseilio’r hyn sy’n diffinio’n gwlad yn ddaearyddol ac yn ddiwylliannol; mewn gair, ein hunaniaeth fel Pobl."