Enw Saesneg i'r Senedd? Pryder am dro pedol

Mae mudiad iaith wedi mynegi pryder yn dilyn adroddiadau yn y wasg y bydd enw a brand Saesneg ar y Senedd.  

Cyn y Nadolig, datganodd y Llywydd y byddai’r Cynulliad Cenedlaethol yn newid ei henw i un uniaith Gymraeg, Senedd. Gwnaed y penderfyniad yn dilyn datganiad gan Arweinydd Llafur Cymru Mark Drakeford ei fod yn cefnogi newid yr enw i un uniaith Gymraeg.  

Dywedodd Osian Rhys, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: 

“Mae hyn yn destun pryder – mae'n ymddangos bod y Llywydd yn agor y drws ar roi enw dwyieithog ar y sefydliad. Mae'r enw Senedd yn un mae'r cyhoedd yn gyffredinol yn ei ddeall a'i gefnogi, ac mae’n cael ei ddefnyddio'n eang ymysg siaradwyr Cymraeg a'r di-gymraeg. Does dim angen esboniad yn Saesneg o’r hyn mae’r Senedd yn ei wneud. Dydy pobl Cymru ddim eisiau colli cyfle i normaleiddio'r Gymraeg. Rydyn ni’n galw ar y Llywydd felly i sicrhau na fydd disgrifiad Saesneg yn ymddangos yn y ddeddfwriaeth, gan sicrhau mai’r enw a’r brand uniaith Senedd fydd yn cael ei ddefnyddio gan bawb.” 

“Roedden ni'n falch iawn o gael cefnogaeth y Prif Weinidog newydd i'r alwad am enw a brand uniaith Gymraeg i'r Senedd, ein corff democrataidd cenedlaethol. Mae'n ymddangos bod lleiafrif nawr yn trio pwyso am newid a fyddai’n golygu i bob pwrpas bod gan y Senedd enw dwyieithog. Fe fyddai'n syndod i ni petai ychydig o wleidyddion adweithiol wedi llwyddo, y tu ôl i ddrysau caeedig, i wyrdroi penderfyniad blaenorol y Llywydd Elin Jones, a wnaed gyda chefnogaeth Arweinydd y Blaid Lafur Mark Drakeford 

"Mae mabwysiadu enw a brand uniaith Gymraeg yn gyfle i atgyfnerthu’r syniad bod y Gymraeg yn gallu cynnwys pawb, o bob cefndir. Mae’n gyfle i ddatgan y gallwn ni fod yn Gymru unedig mewn un iaith, waeth beth yw ein cefndir neu’n hiaith gyntaf. Wedi’r cwbl, uniaith Gymraeg yw ein hanthem genedlaethol, ac mae’n anthem i bawb. Mae digon o sefydliadau sydd ag enwau uniaith Gymraeg hefyd - o Chwarae Teg i’r Urdd, o Ferched y Wawr i’r Mudiad Meithrin. Ac os ydyn ni am feithrin ein plant bach gyda’r Gymraeg ar eu tafodau, oni ddylen ni feithrin ein democratiaeth yn yr un modd?”