Mae’r Archesgob Barry Morgan ymysg dros ddwsin o enwogion sydd wedi galw ar Gyngor Caerdydd i ymrwymo i agor deg ysgol gynradd Gymraeg newydd ar draws y brifddinas dros y pum mlynedd nesaf.
Mewn llythyr agored i’r wasg, mae’r enwau blaenllaw yn dadlau bod angen agor yr ysgolion Cymraeg hyn i gyrraedd targed cenedlaethol Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg yn ogystal ag ateb y galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg yn y brifddinas. Ymhlith llofnodwyr y llythyr, mae’r Cyn-Archdderwydd T. James Jones, Archesgob Cymru Barry Morgan, Bardd Cymru Gwyneth Lewis a’r Athro Christine James.
[Cliciwch yma i lofnodi'r ddeiseb]
Mae’r llythyr yn dadlau bod angen i’r Cyngor sicrhau darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ym mhob rhan o’r ddinas, ac i gynllunio ar gyfer y twf a ddisgwylir ym mhoblogaeth y ddinas dros y degawd nesaf.
Dywed y llythyr: “Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn gyda chymorth awdurdodau lleol megis Cyngor Caerdydd. Heb amheuaeth, mae'n rhaid i'r Cyngor gymryd cam mawr ymlaen er mwyn sicrhau y cyrhaeddir y nod hwn, yn enwedig o ystyried y disgwylir i boblogaeth Caerdydd gynyddu dros 90,000 o fewn y ddeng mlynedd nesaf.
“Mae cynyddu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn y brifddinas yn hanfodol er mwyn cyrraedd y nod, ond ar hyn o bryd nid yw cynlluniau addysg y Cyngor yn ddigonol er mwyn cyrraedd y nod nac ychwaith cwrdd â'r galw cynyddol am addysg Gymraeg. .... Mae'n rhaid cryfhau'r gyfundrefn fel bod gan bawb – o ba gefndir bynnag – addysg cyfrwng Cymraeg yn eu cymuned leol; byddai hyn yn ffordd o hybu amlddiwylliannedd a thaclo amddifadedd yn y brifddinas yn ogystal.
“Galwn felly ar Gyngor Caerdydd i greu deg ysgol gynradd Gymraeg newydd ar draws y brifddinas o fewn y pum mlynedd nesaf. Byddai hyn yn gychwyn da ar hybu twf y Gymraeg yng Nghaerdydd er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr, ateb y galw am addysg Gymraeg, a sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg ym mhob rhan o'n dinas ac yn iaith i bawb, nid i'r rhai ffodus yn unig.“
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi lansio deiseb i’r cyhoedd er mwyn cefnogi’r galwad sydd ar gael i’w llofnodi drwy fynd i http://cymdeithas.cymru/addysgcaerdydd. Ychwanegodd Owain Rhys Lewis, Cadeirydd Cell Caerdydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
“Rhan o'r symbyliad dros ein galwad am agor deg ysgol yw amcan Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a'n trafodaethau ni yng Nghell Caerdydd ynghylch beth fyddai cyfraniad Caerdydd at hynny. Mae Caerdydd yn cynnwys dros 10% o boblogaeth Cymru, canran sy'n cynyddu, a bydd rhaid i o leiaf 50,000 o'r cynnydd rhwng nawr a 2050 ddod o Gaerdydd. Mae Cyngor Caerdydd yn darogan cynnydd anferthol ym mhoblogaeth y ddinas, ac mae'r Cynllun Datblygu Unedol yn sôn am godi dros 40,000 o dai.
“Mae’r galwad am ddeg ysgol yn ymddangos yn uchelgeisiol, ond does dim lle yn ysgolion presennol y ddinas, ac mae hanes twf addysg Gymraeg yn y ddinas yn dangos y byddai'r ysgolion yma, o gael eu hagor mewn cymunedau ar draws y ddinas, yn llenwi. Mae'r galw am addysg Gymraeg yn enfawr, a mwyafrif ysgolion Cymraeg y ddinas yn llawn yn y dosbarth derbyn. Rydyn ni'n galw felly am fynd ymhellach nag ymateb i'r 'galw' tybiedig am addysg Gymraeg, a chynllunio'n strategol ar gyfer twf sylweddol mewn addysg Gymraeg yn sgil y twf ym mhoblogaeth y ddinas yn y blynyddoedd nesaf. Credwn hefyd fod hawl gan ddisgyblion i addysg Gymraeg heb orfod teithio allan o'u cymunedau eu hunain.”