Yn dilyn tair wythnos o weithredu uniongyrchol mewn trefi ledled Cymru, mae Cymdeithas yr Iaith heddiw yn cyhoeddi manylion Fforwm Genedlaethol ar Ddeddf Iaith a gynhelir yn yr Hen Goleg, Aberystwyth ar Ddydd Sadwrn Mawrth 12fed 2005.
Mae Meirion Prys Jones – Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymareg eisioes wedi derbyn gwahoddiad i’r fforwm. Bydd Hywel Williams – Aelod Seneddol Caernarfon – hefyd yn bresennol, gan ei fod yn y broses o lunio mesur Deddf Iaith i’w gyflwyno gerbron Senedd San Steffan. Meddai Huw Lewis, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:“Rhwng nawr a diwrnod y fforwm, galwn am drafodaeth genedlaethol, a fydd yn ystyried yr hyn a ddylid ei gynnwys mewn Deddf Iaith Newydd. Eisioes mae’r Gymdeithas wedi danfon ei dogfen bolisi bresennol ‘Canrif Newydd – Deddf Iaith Newydd’ at lu o fudiadau a chyrff perthnasol, gan ofyn am sylwadau ac argymhellion ac hefyd am bresenoldeb yn y fforwm ym mis Mawrth. Bydd y misoedd nesaf hefyd yn gyfnod o drafod polisi o fewn rhengoedd y Gymdeithas wrth i ni ystyried unrhyw bosibiliadau newydd."“Bu Cymdeithas yr Iaith yn galw am ddeddfwriaeth newydd ers rhai blynyddoedd. Eto i gyd, erbyn hyn, fe ellid dadlau fod hwn yn alwad amserol iawn, sydd ar fin dychwelyd i’r agenda gwleidyddol. Bellach, mae dros ddegawd ers pasio yr hen Ddeddf Iaith. Wedi cyfnod o’r fath, mae hi’n arferol i’r awdurdodau ail-edrych ar ddeddfau, gan ystyried y sefyllfa bresennol a’r angen am newidiadau."“Yn achos Deddf Iaith 1993, gellir dadlau bod angen dirfawr i ail-edrych ar bethau, o ystyried cymaint o newidiadau a welwyd dros y blynyddoedd, yn y meysydd hynny lle roedd disgwyl i’r ddeddf wneud gwahaniaeth. Er engrhaifft, preifateiddiwyd llawer o’r hen gyfleustodau (dwr, nwy, trydan a’r rheilffyrdd), gan olygu nad oes gan gwsmeriaid yr hawl i fynnu gwasanaethau Cymraeg ganddynt. Ar yr un pryd mae’r holl datblygiadau modern a fu ers 1993, yn eiddo i’r sector breifat ac felly yn medru anwybyddu’r ddeddf iaith yn llwyr."“Yn ychwanegol at y newidiadau hyn, dylid nodi’r newid graddol mewn ieithwedd a welwyd yn ddiweddar o gyfeiriad y Bwrdd Iaith. Yn ôl Meirion Prys Jones, y Prif Weithredwr newydd, byddai ef yn ddigon parod i ystyried yr angen am Ddeddf Iaith Newydd os oes yna dystiolaeth yn profi’r angen.”Nodiadau:· Dros yr wythnosau diwethaf, gwelwyd gweithredu uniongyrchol dros Ddeddf Iaith Newydd gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn y Fflint, Caernarfon ac Aberystwyth. Bydd y gweithredu hwn yn parhau dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf er mwyn codi proffil yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith newydd.