Galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar ran y Cymry sy’n gaeth ym Mheriw

Y mae Cymdeithas yr Iaith yn gynyddol bryderus am iechyd un o Gyn-gadeiryddion y mudiad, Ffred Ffransis, sy’n gaeth ym Mheriw gyda'i wraig Meinir. 

Mae Meinir a Ffred – y ddau yn eu saithdegau ac felly yn y categori risg uchel ar gyfer Covid-19 – yn ninas Cusco sydd 11,200 troedfedd uwch lefel y môr. Mae Ffred yn dioddef o Anhwylder Systolig y Fentrigl Chwith sy’n effeithio ar y galon, ac yn gorfod cymryd meddyginiaeth a chael profion gwaed yn rheolaidd. Mae’r afiechyd hefyd yn ei gwneud hi’n anodd iddo anadlu ac, am fod Cusco yn uchel yn yr Andes ble mae'r aer yn denau, mae’n cael effaith fawr arno a’i iechyd yn dirywio. 

Ar 15 Mawrth, caeodd Periw yr holl ffiniau gyda dim ond 24 awr o rybudd, ond nid oedd hynny'n ddigon o amser i drefnu ffordd allan gan fod pob hediad yn llawn. Golyga hyn fod miloedd o bobl wedi’u gadael yno heb ffordd allan, gan gynnwys rhyw 400 o drigolion gwledydd Prydain. 

Dywedodd Bethan Ruth, Cadeirydd y Gymdeithas: “Mae Meinir a Ffred yn aelodau blaenllaw o Gymdeithas yr Iaith – y ddau wedi bod yn ymgyrchwyr diflino dros yr iaith dros nifer fawr o flynyddoedd. Rydyn ni’n poeni'n fawr amdanyn nhw ac am y Cymry eraill sy’n dal ym Mheriw heb ffordd i adael, gan gynnwys dau fachgen 19 oed o'r Preseli.”

Mae gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddyletswydd i warchod ei dinasyddion, a gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cael dychwelyd adref mewn argyfwng. Mae llywodraethau Israel, yr Unol Daleithiau, Ffrainc, yr Almaen, Gwlad Pwyl a Sbaen wedi trefnu hediadau ar gyfer eu dinasyddion nhw, ac mae arlywydd Periw wedi datgan parodrwydd i gydweithio gyda gwledydd i sicrhau bod eu dinasyddion yn gallu dychwelyd.

Ychwanegodd Bethan Ruth: “Rydyn ni’n methu deall pam nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gweithredu ar y mater hwn. Rydyn ni hefyd yn siomedig am nad yw Llywodraeth Cymru wedi dangos arweiniad ar y mater. Mae’n debyg bod y sefyllfa yn Cusco yn dirywio’n gyflym; mae’r fyddin ar y strydoedd yn atal pobl rhag gadael eu gwestai, does dim llawer o fwyd ar ôl yn yr archfarchnadoedd ac mae tensiwn yn cynyddu rhwng y twristiaid a’r bobl sy’n byw yno. Rydyn ni’n erfyn ar Lywodraeth Cymru felly i arwain ar y mater hwn a chymryd cyfrifoldeb dros y Cymry sydd wedi eu gadael mewn sefyllfa mor anodd. Ni ellir oedi. Rhaid i Mark Drakeford fod yn llais cryf dros y Cymry sy’n gaeth ym Mheriw a phwyso ar Lywodraeth San Steffan i drefnu hediad adref iddyn nhw a gweddill trigolion gwledydd Prydain ym Mheriw yn ddiymdroi.”