Am 11.00am ddydd Mawrth (19/7), bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal piced o bafiliwn Cyngor Sir Caerfyrddin ar faes y Sioe Frenhinol Gymreig yn Llanelwedd. Byddwn yn tynnu sylw at yr eironi mai Sir Caerfyrddin sy'n noddi'r sioe eleni sy'n benllanw ymdrechion ei cymunedau gwledig, ac eto fod y Cyngor Sir yn cesio cau degau o'u hysgolion pentrefol.
Byddwn yn rhannu taflenni'n dwyn y teitl "Cyngor Sir Gar yn cau'r drws", sy'n cynnwys ymateb Cyfarwyddwr Addysg Caerfyrddin (Vernon Morgan) i gais y Gymdeithas ar i'r Cyngor ddanfon cynrhychiolydd at gyfarfod cyhoeddus i drafod y strategaeth ddadleuol.Cyfaddefodd Vernon Morgan wrth gyfarfod o Bwyllgor Craffu Addysg y Cyngor ar y 7ed o Fehefin na bu digon o ymgynghori , a dywedodd wrth Cymdeithas yr Iaith (mewn cyfarfod y mis diwethaf) y byddai'n cyhoeddi papur am y strategaeth yn niwedd yr hâf. O ganlyniad, gohiriodd y Gymdeithas ei hymyrch yn erbyn y Cyngor gan roi cyfle ar gyfer ymgynghori.Ond mae Vernon Morgan yn dweud yn awr mewn neges ebost at Cymdeithas yr Iaith "na fydd yn gofyn am ymatebion" i'r Papur Esboniadol ac ychwanegu:"Nid yw'n fwriad gennyf ychwaith ddanfon cynrhychiolwyr i'r cyfarfodydd a fyddwch yn trefnu. Mi allai hynny greu yr argraff fod ymgynghori pellach i ddigwydd ar y cynllun"Dywed un o lefarwyr y Gymdeithas ar addysg, Aled Davies,"Mae'n amlwg fod swyddogion y Cyngor am gau'r drws ar ymgynghori a'u bod yn benderfynol o geisio gwthio trwodd eu hagenda o ganoli addysg a chau'r hysgoliopn pentrefol. Byddwn yn cynnal Cyfarfod Cyhoeddus yn yr Hydref i roi cyfle i bobl y sir roi eu barn ar strategaeth y Cyngor.""Bydd cadair ar gyfer y Cyngor ar y llwyfan er mwyn iddynt gael pob cyfle i esbonio, gwrando a thrafod. Os na ddont, bydd y gadair hon yn wag. Gan ddechrau ar gae'r Sioe, byddwn yn gofyn i bob cynghorydd unigol yn awr a ydynt yn barod i gefnogi cynnig ar lawr y siambr yn mynnu fod y Cyngor yn ymgynghori ynghylch holl sylfaen eu strategaeth ddadleuol"Stori oddi ar wefan BBC Cymru'r Byd