Is-Gadeirydd Ymgyrchoedd - cyfle gwirfoddoli

Rydyn ni’n chwilio am unigolyn brwdfrydig a threfnus i gynorthwyo ein grwpiau ymgyrchu a chydlynu eu gwaith. Hoffem dderbyn enwebiadau ar gyfer y swydd bwysig hon erbyn 6ed Mehefin, ac ethol rhywun i’r rôl ar ddydd Sadwrn 8fed Mehefin.

Am ragor o fanylion neu os hoffech enwebu rhywun cysylltwch â robin@cymdeithas.org  post@cymdeithas.org neu 01970 624501.